PN043 - Hysbysiad Preifatrwydd Gofal Plant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Blynyddoedd Cynnar
Manylion Cyswllt Hayley Morgan
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Gofal plant

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn darparu gwybodaeth am ddata a gasglwyd ac a gedwir gan y Cyngor, yn ymwneud â gofal plant: Y Cynnig Gofal Plant, Dechrau'n Deg, Anghenion Ychwanegol / Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion sy’n Datblygu, cynaliadwyedd, cyllid grant Llywodraeth Cymru, gwella ansawdd, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a /neu arolygiadau Estyn, gwella ansawdd a chymorth gofal plant.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu inni'n uniongyrchol gennych chi. Defnyddir y wybodaeth i drafod a chydlynu’r gwasanaethau mwyaf priodol i gefnogi eich anghenion o ran busnes, gofal plant ac addysg.

Rydym yn derbyn gwybodaeth ynghylch lleoliadau yn anuniongyrchol o gyfarfodydd proffesiynol gyda phartneriaid mewnol ac allanol, er enghraifft, ond ddim yn gyfyngedig i: swyddogion Blynyddoedd Cynnar, Addysg Ganolog, timau Cyflogadwyedd, Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA), Llywodraeth Cymru, Blaenau Gwent, Sefydliadau Ambarél ac ati er mwyn cynllunio'r gefnogaeth fwyaf priodol ar gyfer lleoliadau gofal plant.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Cyfarfodydd GCA / nodiadau’r lleoliad ar adroddiadau ymweld
  • Blaenau Gwent - rhannu gwybodaeth
  • Lleoliadau cofrestredig Cynnig Gofal Plant
  • Adeiladu ag Arian Cyfalaf yn sgil y Cynnig Gofal Plant
  • Cyllid cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar, yn cynnwys cyllid grantiau bach
  • Ceisiadau am gyllid – ee cynaliadwyedd, grantiau RAChS, grantiau GDBC a GGA ac ati.
  • Derbyniadau
  • Manylion ac adroddiadau Graddfeydd Sgorio Amgylcheddol (ERS)
  • Cynllun cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy
  • Adroddiadau arolygu AGC
  • Adroddiadau arolygu ESTYN
  • Nodiadau ymweliadau Swyddog Datblygu Gofal Plant
  • Hunan-asesiadau ac archwiliadau
  • Tendro

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Tîm Gofal Plant yn casglu ystod o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw arweinydd/rheolwr y lleoliad
  • Manylion cyswllt y lleoliad - cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc / Manylion ariannol – os yw’n berthnasol
  • Nifer y lleoedd gofal plant
  • Nifer y plant sy'n mynychu
  • Nifer y lleoedd Heb eu Cynnal / Dechrau'n Deg
  • Wedi cofrestru gyda Sefydliad Ambarél
  • Cofrestriad gofal plant y Cynnig Gofal Plant
  • Cynnig Gofal Plant a lleoliadau eraill Anghenion Ychwanegol / Anghenion Dysgu Ychwanegol – nodiadau, adroddiadau, cyfarfodydd – gan gynnwys Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar y Person a CDUau
  • Arolygiadau ac arolygon Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Ceisiadau ariannu’r Cynnig Gofal Plant
  • Ceisiadau cyllid Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Manylion ac adroddiadau Graddfeydd Sgorio Amgylcheddol (ERS)
  • Adroddiadau arolygu AGC / gwybodaeth am y lleoliad
  • Adroddiadau arolygu ESTYN
  • Nodiadau'r lleoliad o adroddiadau ymweliadau gan y GCA
  • Dechrau'n Deg - nodiadau o adroddiadau ymweliadau, cyfarfodydd, adroddiadau cynllun datblygu'r lleoliad
  • Nodiadau ymweliadau gan y Swyddog Datblygu Gofal Plant
  • Cytundebau Lefel Gwasanaeth - cyfarfodydd a dogfen wedi'i llofnodi
  • Hunan-asesiadau Adran 175/Amddiffyn
  • Cefnogi dogfennau tendr

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU, y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni wrth brosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu'r data categori arbennig fel a ganlyn;

  • data’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hwn dan Erthygl 9, GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Rhennir eich data yn fewnol yn unig gyda'r staff priodol lle mae'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu'n allanol gyda sefydliadau sy'n cefnogi gofal plant orau. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwasanaeth Cyflawni Addsyg
  • Sefydliadau Ambarél
  • Busnes Cymru
  • Timau Cyflogadwyedd
  • Llywodraeth Cymru

Ar wahân i ble y nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofyn inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn;

  • Gyriant rhwydwaith diogel CBST
  • Cypyrddau ffeilio dan glo

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 7 mlynedd

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Hayley Morgan, Rheolwr Gofal Plant, hayley.morgan@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 30/08/2023 Nôl i’r Brig