PN041 - Hysbysiad Preifatrwydd Y Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Manylion Cyswllt: Alyson Costa, Seicolegydd Addysg Arweiniol
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol o amrywiaeth o ffynonellau, fel isod:

  • I gychwyn mae data’n cael ei ddarparu gan ysgolion sydd wedyn yn blaenoriaethu pwy mae’r Gwasanaeth yn gweithio â nhw, yn seiliedig ar lefel anghenion disgyblion.
  • Os yw’r plentyn yn rhy ifanc i fynychu’r ysgol (Blynyddoedd Cynnar), mae gwybodaeth yn cael ei rhannu i ddechrau gan Bediatregwyr a chydweithwyr Iechyd eraill, Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar neu drwy’r Panel Ymyrraeth Blynyddoedd Cynnar.
  • Mae data personol yn dod hefyd oddi wrth: Gofal Cymdeithasol; Byrddau Iechyd, Teuluoedd yn Gyntaf; Awdurdodau Lleol eraill.

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi, os bydd achos yn cael ei ddwyn ymlaen

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Cymwysiadau cyfrifiadurol
  • Gwaith papur ‘Cais i Gymryd Rhan’ o ysgolion, gofal cymdeithasol, pobl broffesiynol feddygol.
  • Cyfarfodydd gyda rhieni a phlant/pobl ifanc.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad
  • Rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Cyrhaeddiad addysgol
  • Anghenion meddygol
  • Amgylchiadau teuluol Gofal Cymdeithasol (os yw’n berthnasol)
  • Hanes bywyd cynnar
  • Anghenion Dysgu Arbennig
  • Nodiadau arsylwi
  • Asesiadau gwybyddol

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

  • Yn gyfreithiol, mae gofyn i’r Gwasanaeth gwblhau darnau o waith i gefnogi Asesiadau Statudol mewn cydymffurfiad â’r Cod Ymarfer ADY

Ceir caniatâd gan y rhiant/gofalwr i ymgysylltu â’r gwasanaeth,, serch hynny, nid caniatâd yw’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data syn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau at ddibenion asesiad cysylltiedig, cyfannol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Lleoliadau Ysgolion/Blynyddoedd Cynnar.
  • GIG/Bwrdd Iechyd.
  • Awdurdodau Lleol eraill os yw eich plentyn yn symud i ardal arall.
  • • Gwasanaeth troseddau ieuenctid.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel:

  • Ar Ffurf electronig - ar yriant diogel ar y rhwydwaith.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Cedwir ffeiliau disgyblion am 35 mlynedd o ddyddiad eu cau.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Alyson Costa, Seicolegydd Addysg Arweiniol, C.B.S.T., Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB.

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 20/07/2023 Nôl i’r Brig