PN035 - Hysbysiad Preifatrwydd Plant mewn Cyflogaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Ardal Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Y Gwasanaeth Lles Addysg
Manylion Cyswllt: Sarah Allard
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Plant mewn Cyflogaeth

Rheolydd Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Canolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

Fe'i rhannwyd gyda'r Cyngor drwy ffurflen gais

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

  • Eich enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Ysgol bresennol
  • Rhif cyswllt
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw'r rhiant/gwarcheidwad
  • Canran y presenoldeb
  • Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y cyflogwr arfaethedig
  • P'un a ydych wedi cael eich cyflogi o'r blaen

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Sylwer y gallwn ofyn am ganiatâd i gymryd rhan yn y gwasanaeth neu i rannu gwybodaeth â darparwyr. Fodd bynnag, nid caniatâd yw'r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol

Categorïau arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata categori neu droseddol arbennig.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau am resymau cyfreithiol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;

  • Eich Ysgol
  • Eich cyflogwr

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn;

  • Rhwydwaith diogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn unol â'n hamserlen cadw Awdurdodau Lleol sydd ar ddiwedd y drwydded a 12 mlynedd

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â Sarah Allard, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Ganolfan Ddinesig. Pont-y-pŵl. NP46YB – sarah.allard@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2023 Nôl i’r Brig