PN033 - Hysbysiad Preifatrwydd Cymunedau am Waith a Mwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Oedolion a Chymunedau
Maes Gwaith: Cymunedau am Waith a Mwy
Manylion Cyswllt: 07966 880396
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Cymunedau am Waith a Mwy

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Darperir yr hysbysiad preifatrwydd hwn er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’ch hawliau GDPR. Er mwyn i Gymunedau am Waith a Mwy ddarparu gwasanaeth i chi.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi. Mae rhai amgylchiadau lle mae angen i ni dan y gyfraith brosesu eich gwybodaeth, megis pan fyddwch eisiau derbyn ein gwasanaethau a’n cymorth.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Ffurflenni electronig (gan gynnwys arolygon)
  • Galwadau ffôn
  • Ffurflenni arlein (gan gynnwys arolygon)
  • Galwadau fideo
  • Ffurflenni papur (gan gynnwys arolygon)

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn casglu gwybodaeth bersonol megis:

  • Enw
  • Cyfeirid
  • Dyddiad geni ac oedran
  • Rhywedd ac adnabyddiaeth rhywedd
  • Cyflyrau iechyd ac anableddau
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Statws cyflogaeth
  • Statws o ran Budd-daliadau
  • Statws preswylfa yn y DU
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion ariannol
  • Anghenion Cymorth Ychwanegol
  • Hawl i weithio a byw yn y DU
  • Dewis o iaith i gyfathrebu
  • Cefndir ethnig ac ethnigrwydd
  • Lefel cymhwyster presennol
  • Statws ymfudol
  • Cyfrifoldebau gofal a gofal plant
  • Statws rhiant sengl
  • Gallu gyda’r iaith Gymraeg
  • Graddfa cyflog wrth fynd i mewn i waith
  • Gwybodaeth mewn perthynas ag euogfarnau neu risg

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(a) Eich caniatâd. Mae angen hyn os ydych yn ymddangos mewn ffotograffau neu fideos a ddefnyddir i ddibenion hyrwyddo neu os ydych yn tanysgrifio i dderbyn deunydd marchnata uniongyrchol gennym e.e. cylchlythyrau. Mae caniatâd yn ymwneud â’r pwrpas penodol y rhoddwyd y caniatâd yn unig a gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer unrhyw brosesu arall.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Nodwch os gwelwch yn dda, efallai y byddwn yn gofyn am ganiatâd i ymgysylltu â’r gwasanaeth, serch hynny, nid caniatâd yw’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol ac eithrio fel dywedir uchod.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data syn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU. Cesglir y data hwn dim ond er mwyn rhoi cymorth ychwanegol os oes ei angen ac ar gyfer gofynion adrodd di-enw.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU. Bydd y defnydd hwn o’r data yn cael ei gyfyngu i lle mae angen hynny er mwyn darparu gwasanaeth e.e. SIA

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau ar gyfer tystiolaeth o gymhwystra, sicrhau ansawdd ac i roi cymorth ychwanegol os oes ei angen. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Adrannau eraill o fewn y Cyngor
  • Adran Gwaith a Phensiynau ac adrannau eraill y Llywodraeth
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Yr Heddlu / Gwasanaeth Prawf
  • Darparwyr Gofal Cymdeithasol
  • Llywodraeth Cymru
  • Archwilwyr
  • Rheolyddion Allanol

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel fel a ganlyn:

  • Storio’n electronig ar yriant rhwydwaith diogel
  • • Platfform ar-lein diogel
  • Ffeiliau papur mewn cabinet dan glo

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Cedwir y data am 7 mlynedd yn unol â pholisi cadw data y Cyngor

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Clare Cullis, clare.cullis@torfaen.gov.uk 07966880396

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig