PN027 - Hysbysiad Preifatrwydd Polisi a Phartneriaethau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Uned Cymorth Gwasanaethau Cyhoeddus
Maes gwaith: Polisi a Phartneriaethau
Manylion Cyswllt: Sarah Tipping
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Polisi a Phartneriaethau

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r tîm Polisi a Phartneriaethau:

  • Yn ymgysylltu a gweithio gyda phobl dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Yn darparu gwybodaeth a chymorth i aelodau sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd ac i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog dan y Cyfamod Lluoedd Arfog.

Byddwn yn defnyddio eich manylion i anfon hysbysiadau o gyfarfodydd i chi a phapurau ategol megis agend âu a chofnodion os ydynt yn cael eu cynhyrchu gan swyddogion y Cyngor; i ddosbarthu gwybodaeth mewn perthynas â’r agenda 50+ neu’r Cyfamod Lluoedd Arfog fel eich bod yn ymwybodol o faterion a newyddion / i basio gwybodaeth ymlaen mewn perthynas â’ch rôl ar y fforymau 50+ neu’r Rhwydwaith Lluoedd Arfog

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych.

Byddwch wedi cael eich hethol fel Cadeirydd un o’r tri fforwm 50+ Torfaen, wedi cytuno sefyll fel aelod o Gynghrair Pobl H ŷn Cymru neu wedi cytuno bod yn aelod o rwydwaith Lluoedd Arfog Torfaen.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wy bodaeth hon?

Bydd y tîm Polisi a Phartneriaethau yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi drwy:

  • Ffurflenni arlein
  • Ebost
  • Ar y ffôn

Pa wy bodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Bydd y tîm Polisi a Phartneriaethau yn casglu eich enw a’ch cyfeiriad ebost. Mewn rhai achosion (dim ond lle rydych chi wedi darparu’r wybodaeth), mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad cartref a’ch rhif ffôn.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata categori arbennig na data troseddol.

Pwy sydd yn cael defny ddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau, er enghraifft swyddogion eraill sy’n gweithio i’r Cyngor a allai helpu gyda neu gymryd y gwaith o redeg y fforymau a’r rhwydweithiau hyn.

Rhennir Cadeiryddion y fforymau 50+ gyda:

  • Age Connects Torfaen sydd â chontract i gynorthwyo’r Fforwm 50+ ac sydd â manylion cyswllt holl aelodau fforwm 50+
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Llywodraeth Cymru sy’n cysylltu gyda Chadeiryddion y Fforwm ledled Cymru ar gyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol ac eitemau o ddiddordeb i Gadeiryddion fynychu ar ran eu fforwm lleol neu i rannu gy dag aelodau ehangach eu fforwm.

Nid yw manylion cyswllt y Rhwydwaith Lluoedd Arfog y cael eu rhannu gydag unrhyw un y tu allan i’r rhwydwaith.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwy ddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gam ddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar:

  • Rwydwaith Ddiogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod L leol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Os byddwch yn ymddiswyddo o’r fforymau neu’r rhwydweithiau hyn, yna byddwn yn dileu eich data o fewn mis o dderbyn yr wybodaeth hon.

Ydyn ni’n gwneud penderfy niadau awtomataidd/y n proffilio gy da’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cy ngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo d ata a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Sarah Tipping, Y Ganolfan Ddinesig, Po nt-y-pŵl, Sarah.Tipping@Torfean.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2 il Lawr, T ŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig