PN026 - Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Ailsefydlu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Oedolion a Chymunedau
Maes gwaith: UCGC - Cydraddoldebau, Diogelwch Cymunedol
Manylion Cyswllt: Christopher.hunt@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Rhaglen Ailsefydlu

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Defnyddir y wybodaeth a gesglir o dan y Rhaglen Ailsefydlu i roi’r cymorth cywir i bob teulu a ail-leolir yn y Fwrdeistref. Mae’n cynnwys datblygu cynlluniau cymorth holistaidd ar gyfer y cyfnod ar ôl cyrraedd sy’n cynnwys gwasanaethau fel iechyd ac addysgu a’r sawl a gomisiynwyd i ddarparu’r cymorth, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Fel awdurdod lleol sy’n cymryd rhan yn y broses o ailsefydlu ffoaduriaid, rydym yn cael gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru am bob achos a groesawir i’r Fwrdeistref. Caiff y wybodaeth hon ei dal pan fydd rhywun yn cofrestru diddordeb i gael ei ailsefydlu, naill ai gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) – asiantaeth gyfryngu (yn achos Cynllun Ail-leoli’r Rheiny sy’n Agored i Niwed, Cynllun Ailsefydlu’r DU, Cynllun Polisi Ail-leoli a Chymorth i Bobl Affganistan, Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan) neu trwy UKVI a Llywodraeth Cymru (lle bo’r unigolion wedi cyflwyno cais am fisa yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcrain). Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth gan asiantaethau eraill sy’n cefnogi ffoaduriaid.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

Nid yw’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol; mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu gan Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref. Caiff ei lanlwytho i borth ar-lein diogel ac yna mae’r Cyngor yn cael mynediad ati. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth trwy:

  • Sgyrsiau ar lafar
  • E-bost
  • Cyfarfodydd wyneb yn wyneb

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

  • Enw
  • Dyddiad Geni / Oed
  • Cyfeiriad
  • Rhyw
  • Ethnigrwydd
  • Crefydd
  • Cenedligrwydd
  • Cefndir personol
  • Meddygol
  • Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer noddwyr/lletywyr (cynllun Cartrefi i Wcrain)
  • Manylion banc ar gyfer lletywyr (cynllun Cartrefi i Wcrain)

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Lle byddwn yn casglu data troseddol, at ddibenion gwirio noddwyr a lletywyr ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcrain, cânt eu prosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael eu rhannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle bont yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael eu rhannu’n allanol gyda darparwyr gwasanaethau a gomisiynir i ddarparu agweddau ar gymorth. Gallai’r rhain gynnwys y canlynol ond nid ydynt wedi eu cyfyngu at y rhain:

  • Darparwyr y cymorth gweithiwr achos
  • Darparwyr addysg Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn y cartref
  • Iechyd
  • Yr Heddlu
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Llywodraeth Cymru/Y DU

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar wait hi sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU. Bydd data’n cael eu storio’n ddiogel mewn:

  • cronfa ddata TG ddiogel a ddarperir gan Civica, sydd ag ardystiad ISO 27001
  • system rheoli cofnodion ddiogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Hyd at 6 mlynedd ar ôl sefydlu/setlo

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Chris Hunt, Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol, christopher.hunt@torfaen.gov.uk, 01495 766097 or 07961558470

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 08/12/2023 Nôl i’r Brig