PN0147 - Hysbysiad Preifatrwydd Anawsterau Dysgu Penodol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Manylion Cyswllt: Alyson Costa, Seicolegydd Addysg Arweiniol
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Anawsterau Dysgu Penodol

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan ystod o ffynonellau, fel yr isod:

  • I ddechrau, mae data yn cael ei ddarparu gan ysgolion sydd wedyn yn blaenoriaethu pwy mae'r Gwasanaeth yn gweithio gyda nhw, yn seiliedig ar lefel anghenion disgyblion.

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gan eich rhieni/gofalwyr, pe bai angen dwyn mater ymlaen.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon

  • Cymwysiadau cyfrifiadurol
  • Gwaith papur ‘Cais am gyfranogiad’ gan yr ysgol
  • Cyfarfodydd â phlant/pobl ifanc a staff yr ysgol

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch. Mae hyn yn cynnwys.

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Cyfeiriad
  • Ethnigrwydd
  • Cyrhaeddiad addysgol
  • Amgylchiadau’r teulu o ran Gofal Cymdeithasol (os yw’n berthnasol)
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Nodiadau arsylwi
  • Asesiadau gwybyddol a llythrennedd

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol ?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus – Rhoi cyngor i ysgolion ynglŷn â'r ffordd orau o gefnogi datblygiad llythrennedd disgyblion unigol. Llofnodi trefniadau mynediad i arholiadau i alluogi pobl ifanc i gael addasiadau rhesymol i gael mynediad i'r arholiadau.

Ceir caniatâd gan y rhiant/gofalwr i gymryd rhan yn y gwasanaeth, fodd bynnag, nid caniatâd yw'r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Categorïau Arbennig o ddata personol 

Rydym yn casglu'r data categori arbennig a ganlyn;

  • Data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9, GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data am droseddau

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau at y diben o gynnal asesiad, cyfannol, cydgysylltiedig. Gall y rhain gynnwys, ond ni ydynt wedi eu cyfyngu i;

  • Ysgolion
  • Awdurdodau Lleol eraill os yw eich plentyn yn symud i ardal arall.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac ydy

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar:

  • Ffurflen electronig – ar yriant rhwydwaith diogel.

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti hwn ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Cedwir ffeiliau disgyblion am 35 o flynyddoedd o’r dyddiad  cau.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Alyson Costa, Seicolegydd Addysg Arweiniol, C.B.S.T, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB – alyson.costa@torfaen.gov.uk.

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/07/2023 Nôl i’r Brig