PN012 - Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Rheoli Asedau

Mae’r geiriad yn y ddogfen hon yn adlewyrchu’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) sy’n weithredol o 25ain Mai 2018.

Maes gwasanaeth CBST: Adnoddau
Maes Gwaith: Gwasanaethau Rheoli Asedau
Manylion Cyswllt: asset.management@torfaen.gov.uk
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Rheoli Asedau

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Ydyn ni wedi cael eich data personol yn uniongyrchol oddi wrthych chi?

Ydyn

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu ynglŷn â chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth ynglŷn â chi. Mae hyn yn cynnwys pob un neu rai o’r canlynol yn ddibynnol ar y cyd-destun:

  • Enw
  • Cyfeiriad Cartref
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif Ffôn
  • Gwybodaeth ariannol (fel arfer tystlythyrau gan y banc a/neu datganiadau ariannol)

Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd

Yn uniongyrchol oddi wrthych chi neu oddi wrth eich banc yn achos tystlythyrau gan y banc.

Byddwn yn storio eich data

Mewn ffeiliau electronig a basau data

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Caniatâd

Mae hyn yn berthnasol pan fyddwch wedi gofyn i gael eich cynnwys ar restr bostio neu restr aros ar gyfer eiddo neu wedi gwneud ymholiad ynglŷn â thir ac adeiladau’r Cyngor.

I gwrdd â rhwymedigaethau cytundebol gan wrthrych y data

Mae hyn yn berthnasol pan fyddwn wedi mynd i gytundeb cyfreithiol mewn perthynas â gwerthu tir neu adeiladau, a phrydles neu drwydded ar gyfer meddiannu tir neu adeiladau.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Na

Gallwn brosesu’r data yn y categori yma oherwydd:

Ddim yn berthnasol

Pwy sy’n gallu gweld eich data?

Gall eich gwybodaeth gael ei rhannu’n fewnol gyda:

Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau CBST – at ddibenion biliau a/neu ddatgelu trosedd

Adran Gyfreithiol CBST os gaiff gyfarwyddyd i gynrychioli’r Cyngor mewn gweithrediad mewn perthynas ag eiddo

Archwilio Mewnol CBST – datgelu trosedd

Gwasanaethau Eiddo CBST – enw a manylion cysywllt drefnu atgyweiriadau

Mae’r Cyngor yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon oherwydd

Cyfreithwyr allanol os cyfarwyddir nhw i gynrychioli’r Cyngor mewn gweithrediad mewn perthynas ag eiddo; datgelu trosedd.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Nac Ydy

Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym er mwyn sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd, nid yw staff yn edrych ar ddata ac eithrio pan fyddant wrth eu dyletswyddau.

Ble mae’r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma hefyd ddyletswydd o gyfrinachedd ac mae’n ofynnol iddyn nhw weithredu mesurau priodol er mwyn sicrhau diogelwch y data.

Am ba mor hir y mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn dal eich data personol dim ond cyhyd ag sydd angen a bydd yn dilyn safonau sefydliadol ac Awdurdod Lleol yn y maes hwn.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn unol â’n hatodlenni cadw Llywodraeth Leol.

Pan fyddwch wedi gofyn i fod ar restr bostio neu restr aros byddwn yn cadw’r wybodaeth yma cyhyd ag y bydd diben y rhestr yn berthnasol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/proffilio gyda’ch data?

Nac Ydym

Eich Hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau gallwch fynnu bod y Cyngor yn dileu neu’n peidio â phrosesu’ch data, er enghraifft, ble nad yw’r data’n angenrheidiol at ddibenion prosesu bellach
  • cael gwybod yr amser y bydd data’n cael ei gadw
  • yr hawl i hygludedd data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliol (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • canlyniadau peidio darparu data i’r Cyngor
  • bodolaeth systemau penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a chanlyniadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un neu rai o’r hawliau yma, cysylltwch â asset.management@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig