PN011 - Hysbysiad Preifatrwydd Cyfrifon Taladwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Adnoddau
Maes Gwaith: Gwasanaethau Ariannol
Manylion Cyswllt: creditors@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cyfrifon Taladwy

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yma’n ymwneud â system cyfrifon taladwy’r Cyngor ac yn benodol y wybodaeth y mae ei hangen i dalu cyflenwyr ac unigolion.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi.

Er enghraifft, i wneud taliad, bydd rhaid i’r Cyngor brosesu data personol mewn perthynas ag enw, cyfeiriad a manylion cyfrif banc.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

Mae’r Cyngor yn casglu gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol: -

  • E-bost
  • Anfoneb/llythyr
  • Ffôn

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r system Cyfrifon Taladwy yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn.
  • Gwybodaeth cyfrif banc
  • Gwybodaeth arall a roddir i wneud taliadau i chi

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw: 

(c) Mae gennym rwymedigaeth gytundebol.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau Arbennig o ddata personol

Er nad ydym ni’n gofyn yn benodol am wybodaeth iechyd, efallai byddwn yn casglu’r wybodaeth yma yn ystod y broses dalu. Rydym yn casglu hyn o dan erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata categori arbennig arall.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau er mwyn gwneud taliadau (h.y. BACS) ac i ddangos tystiolaeth o daliadau a wnaed. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i :-

  • Gwasanaeth Clirio Awtomataidd Bancwyr (BACS)
  • Paygate Solutions
  • Civica UK Limited
  • Cyllid a Thollau EM
  • Archwilwyr Ariannol
  • Sefydliadau sy’n Talu Grantiau
  • Y Comisiwn Archwilio/Menter Twyll Genedlaethol

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu’n cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn: 

  • Cronfa ddata ddiogel Cyfrifon Taladwy

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Bydd gwybodaeth amdanoch chi’n cael ei chadw gan y Cyngor am hyd at 7 mlynedd ar ôl y flwyddyn brosesu, oni bai bod y taliad yn ymwneud ag ariannu Ewropeaidd ac, os felly, gall y cyfnod cadw fod yn hirach yn unol ag amodau’r grant.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Wendy Edwards, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB - wendy.edwards@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig