PN010 - Hysbysiad Preifatrwydd Yswiriant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Adnoddau
Maes Gwaith: Gwasanaethau Ariannol
Manylion Cyswllt: insurance@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Yswiriant

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yma’n ymwneud â system trin hawliadau yswiriant y Cyngor ac yn benodol y wybodaeth y mae ei hangen er mwyn prosesu ac ymchwilio i hawliadau ac, os yw’n briodol, gwneud penderfyniadau ar faint o iawndal a delir.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi neu gan eich cynrychiolydd cyfreithiol.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

Mae’r Cyngor yn casglu gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol: 

  • E-bost
  • Ffôn
  • Porthol Hawliadau

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r System Trin Hawliadau Yswiriant yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn.
  • Cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Cofnodion Meddygol
  • Cofrestriad Cerbyd
  • Enwau a chyfeiriad tystion
  • Enwau a chyfeiriadau cynrychiolwyr
  • Enwau a manylion cyswllt cyfreithwyr
  • Manylion yswiriant
  • Enw, cod didoli a rhif cyfrif banc

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

  • Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau ar gyfer ymchwilio i’ch hawliad. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cyfreithwyr
  • Yswirwyr
  • Aseswyr colledion
  • Yr Adran Waith a Phensiynau (hawliadau niwed personol yn unig)
  • Y Comisiwn Archwilio fel rhan o’r Fenter Twyll Genedlaethol.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu’n cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:-

  • Cronfa ddata ddiogel ar gyfer Trin Hawliadau Yswiriant

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Bydd gwybodaeth amdanoch chi’n cael ei chadw gan y Cyngor am hyd at 7 mlynedd ar ôl i’ch hawliad gau, oni bai bod yr hawliad mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc, ac, os felly, bydd y wybodaeth yn cael ei chadw am hyd at 4 blynedd ar ôl pen blwydd yr unigolyn yn 18 oed.

Mae’r Cyngor yn cadw gwybodaeth am gyhyd er mwyn ailagor hawliadau ac ymchwilio i hawliadau ffug posibl.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Wendy Edwards, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB wendy.edwards@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig