Hysbysiad Preifatrwydd Ysbrydoli

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Education Service
Maes gwaith: Ysbrydoli
Manylion Cyswllt: Gareth Jones
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Ysbrydoli

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Cesglir gwybodaeth ar bobl ifanc 11-19 oed sy’n mynegi diddordeb mewn ymuno â phrosiect Ysbrydoli ac Ysbrydoli+.  Mae data’n cael ei gasglu hefyd am bobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at ac yn cael eu cefnogi gan y prosiectau. Mae’n cael ei gadw gan y tîm fel y gallwn ni gefnogi anghenion pobl ifanc a gyfeirir at y prosiect ac adrodd am ganlyniadau i Lywodraeth y DU.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi fel y gallwn ni eich cefnogi gyda’ch taith at Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant ac i’ch cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau allai fod gennych, yn enwedig pan fyddwch yn gadael yr ysgol uwchradd.   

A/NEU

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, gan drydydd partïon fel:

  • Gyrfa Cymru, ysgolion, adrannau eraill yn yr Awdurdod Lleol a’r Ganolfan Waith fel y gallwn ni roi cefnogaeth effeithiol a phriodol i chi
  • Cyrff sy’n rhoi cymwysterau.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon? 

  • Gan gronfa SIMS Ysgolion ac Addysg
  • Gan y sefydliad sydd wedi eich cyfeirio at y prosiect
  • O’r ffurflen gofrestru a gwaith papur arall yr ydych yn cwblhau ar y prosiect
  • Gan Gyrff Dyrannu Cymwysterau

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae prosiect Ysbrydoli ac Ysbrydoli+ yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Dynodwyr personol fel Enw, Dyddiad Geni, rhif Yswiriant Gwladol a/neu Rif Dysgwr Unigryw (RhDU), a rhif adnabod a roddir gan y prosiect;
  • Eich rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad cartref
  • Enwau eich rhieni a/neu Enw Cyswllt mewn Argyfwng, eu rhif ffôn a manylion eu cyfeiriad
  • Data statws yr aelwyd fel manylion a ydych chi’n byw ar aelwyd oedolyn sengl neu aelwyd ddi-waith, â chyfrifoldebau gofalu neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
  • P’un ai ydych chi’n chwilio am waith neu a ydych yn yr ysgol neu Addysg Bellach ar hyn o bryd ac a ydych chi’n debygol o aros a chwblhau eich astudiaethau, symud at ddarparwyr addysg arall neu gael hyd i waith cyflogedig. 
  • Manylion ynglŷn ag a ydych chi’n cymryd rhan mewn cynlluniau neu raglenni eraill a ariennir gan y llywodraeth.
  • Data cydraddoldeb cyfle fel rhywedd, ethnigrwydd, aelodaeth o grŵp ethnig lleiafrifol, statws gweithiwr ymfudol ac anableddau neu gyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar waith.
  • Data asesiad fel eich cymwysterau cychwynnol, ein nodau a rhwystrau ac unrhyw gefnogaeth bresennol neu flaenorol gan brosiectau CCE.
  • Data iaith Gymraeg fel eich sgiliau wrth ddefnyddio’r iaith a’ch iaith ddewisedig ar gyfer cyfathrebu ac astudiaeth.
  • Data’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn ymgymryd â nhw gyda’r prosiect fel manylion gwaith grŵp neu gwrs, dyddiadau, y gefnogaeth a dderbyniwyd a chynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt.
  • Data’n ymwneud â chanlyniadau’r gweithgareddau yr ydych yn ymgymryd â nhw fel cymwysterau a gafwyd neu newidiadau yn eich statws addysg.
  • Data’n ymwneud ag unrhyw euogfarnau anhreuliedig.  Rydym yn gwneud fel er mwyn i ni allu eich diogelu chi, pobl eraill sy’n cymryd rhan, ein staff, yn ogystal â sefydliadau eraill y byddwch efallai’n cael eich gosod â nhw fel rhan o weithgareddau’r prosiect.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Nodwch os gwelwch yn dda y byddwn efallai’n gofyn am ganiatâd i ymgysylltu yn y gwasanaeth neu i rannu gwybodaeth gydacdarparwyr, serch hynny, nid caniatâd yw’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Categorïau Arbennig o ddata personol

  • Rydym yn casglu peth data am eich iechyd er mwyn rhoi’r gefnogaeth fwyaf priodol ac effeithiol ar gyfer eich anghenion a’ch amgylchiadau. Rydym yn casglu data am eich ethnigrwydd, categorïau BAME a statws mewnfudo oherwydd mae angen hyn at ddibenion adrodd i Lywodraeth DU. Mewn rhai achosion, byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am euogfarnau anhreuliedig. Rydym yn gwneud fel er mwyn i ni allu eich diogelu chi, pobl eraill sy’n cymryd rhan, ein staff, yn ogystal â sefydliadau eraill y byddwch efallai’n cael eich gosod â nhw fel rhan o weithgareddau’r prosiect.

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol yma:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data’n ymwneud ag iechyd
  • data’n ymwneud ag euogfarnau anhreuliedig  

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A/NEU

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau ar gyfer

  • dibenion adrodd canlyniadau’r prosiect,
  • cyflenwad cyrsiau gan ddarparwr allanol,
  • rhoi cymwysterau,
  • ymchwil cymdeithasol ac economaidd proffesiynol, 
  • cefnogaeth ychwanegol o sefydliadau/prosiectau allanol
  • Cyrchfannau Adrodd

Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Llywodraeth y DU trwy’r awdurdod arweiniol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Agored Cymru
  • Gyrfa Wales

Ar wahân i ble dywedir yn wahanol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:

  • Gyriant rhwydwaith diogel
  • Cypyrddau Ffeilio Diogel yn Adeiladau’r Cyngor
  • Cronfa Ddata’r Prosiect

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Gareth Jones, Cyfeiriad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, The Highway, Croesyceiliog, Cwmbrân, Torfaen, NP44 2HF, E-bost: gareth.jones4@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2023 Nôl i’r Brig