Hysbysiad Preifatrwydd Ffioedd Teithio Rhatach

Maes Gwasanaeth CBST: Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
Maes gwaith: Tocynnau Teithio Rhatach
Manylion Cyswllt: Michelle Mitchell
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Priffyrdd a Thrawsgludo

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.go.uk

Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol oddi wrthych chi?

Gellir darparu data personol i ni ar ffurf ffurflenni cais, gan yr unigolyn neu adran arall sy'n gweithredu ar ei ran

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enwau
  • Ffotograffau
  • Cyfeiriadau
  • Dyddiad geni
  • Pasbort
  • Yswiriant Gwladol neu Rif Tystysgrif Geni
  • Rhifau ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth am iechyd neu anabledd

Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd

Ffurflenni Cais, adrannau eraill y Cyngor

Byddwn yn storio eich data

  • Mewn systemau ffeilio electronig

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

I gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor

Categorïau Arbennig o ddata personol

Gallwn. Fe allwn gofnodi dangosydd anabledd, ond nid ydym yn cadw manylion ynglŷn â hyn

Gallwn brosesu’r categori data yma oherwydd

  • Rhoddodd testun y data ganiatâd penodol

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

  • Llywodraeth Cymru

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Na

Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n fwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd nid yw cyflogeion yn defnyddio’r data ac eithrio wrth gyflawni’u dyletswyddau.

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau trefniadol ac Awdurdod Lleol ac unrhyw ofynion archifol neu gyllidol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
  • yr hawl i gludo data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • y canlyniadau os ydych yn methu darparu data i’r Cyngor
  • bodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda ar ITU@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 762200

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig