Parc Pont-y-pŵl i Flaenafon

Dringfa egnïol i grib y mynydd, gyda golygfeydd syfrdanol

Cychwyn: Amgueddfa Parc Pont-y-pŵl 

Diwedd: Llanover Road, Blaenafon

Parcio: Maes Parcio Glan yr Afon, Pont-y-pŵl

Pellter Bras: 9km / 5.5 milltir

Amser sy'n Ofynnol: 3.5 awr

Mae Eglwys Sant Cadog yn cynnwys llawer o hanes. Yn ôl yr hanes, aeth Sant Cadog ati i adeiladu'r eglwys, ond byddai'r hyn a gododd yn ystod y dydd yn cael ei dynnu i lawr gan y Diafol yn ystod y nos tan, o'r diwedd, gwnaeth Cattwg gloch fawr a ganodd gan wneud i'r diafol ollwng y cerrig o'i ffedog gan gwympo ymhellach i fyny'r mynydd yng Ngarn Clochdy. 

Yn y fynwent yn Eglwys Sant Cadog, mae bedd gydag arysgrif er cof am William Summerfield a fu farw 16 Mawrth 1855 yn 38 oed. Roedd y gŵr bonheddig hwn yn cadw'r dafarn gyferbyn â'r eglwys, sef Yew Tree Inn. Roedd yn enwog yn ystod ei oes am ei fod yn anferth o dew ac weithiau byddai'n teithio ar sioe. Hyd yn oed gartref, byddai torfeydd yn tyrru i ymweld â'i dafarn er mwyn bwrw golwg arno. Ac yntau'n 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, pwysai 32 stôn a mesurai ei ganol 67 o fodfeddi. 

Mae'n bosibl bod Coedwig Lasgarn wedi'i henwi felly oherwydd y garreg lasaidd a gloddid yno ar un tro. Defnyddid y goedwig am lawer blwyddyn i gyflenwi coed i wneud golosg, a oedd yn hanfodol i wneud haearn nes bod glo'n ddewis arall ymarferol. 

Mae Llwybr yr Hen Bynfarch yn dyddio o'r Canol Oesoedd. Byddai'n rhaid cludo hychod neu ingotau o haearn gan fulod neu bynfeirch, yn cario hyd at 150kg yr un mewn cewyll yn hongian ar bob ochr i'w cyrff. Mae'n bosibl y byddai hyd at 100 o anifeiliaid wedi gwneud trên a fuasai'n cludo'r metel i lawr y cwm o Flaenafon i Gasnewydd; gellid ei gludo oddi yno wedyn ar y dŵr. 

Safle hen gapel yw Capel Newydd, wedi'i nodi gan groes haearn seml fechan. Ar un adeg, byddai'r capel hwn yn gwasanaethu'r cwm o gwmpas Blaenafon yn gapel anwes i Eglwys Llanofer. Adeg ei adeiladu, tua diwedd y 1500au efallai, dim ond cymuned fechan a gwasgaredig oedd ym Mlaenafon. Pan agorodd y Gwaith Haearn, ni allai'r capel ymdopi â'r mewnlifiad o addolwyr ac ni fuasai'r mwynwyr a'r gweithwyr haearn o Loegr yn deall ei wasanaethau, am eu bod yn Gymraeg. Ym 1805 adeiladodd y Meistri Haearn eglwys newydd, San Pedr, yng nghanol Blaenafon ac yn araf collodd y capel bach ei gynulleidfa ac aeth â'i ben iddo. Ym 1860 cafodd ei adael ac, yn dawel bach, ysbeiliwyd ei gerrig i atgyweirio adeiladau eraill yn yr ardal. Yn y pen draw, defnyddiwyd yr olaf o'i gerrig i godi eglwys Sant Paul a gosodwyd ei fwrdd allor bach yn yr eglwys newydd. Nid yw'r safle wedi'i adael yn gyfan gwbl am fod gwasanaethau awyr agored achlysurol yn cael eu cynnal o hyd wrth y groes. 

Yn ôl yr hanes, adeiladwyd yr eglwys gan dair chwaer a oedd yn byw yn Nhŷ Kenricks yn y Farteg. Un tro arall yn y stori hon yw bod y chwiorydd wedi cynilo llawer o arian a phenderfynu defnyddio hwn i gael clychau wedi'u gwneud i'r eglwys. Cafodd y clychau eu castio yng Nghwmafon (o'r union arian a gynilodd y chwiorydd, yn ôl un fersiwn) ac ar ôl eu gosod byddai'r clychau'n canu'r sain beraf y gellid ei chlywed am filltiroedd o gwmpas. Ond cawsant eu dwyn a bu farw'r cymwynaswyr galarus yn amddifad o sain eu hannwyl glychau. Ceir cofnod bod yr eglwys wedi elwa ar grant gan "Haelioni Brenhines Anne" yng nghanol y 1760au, a allai hyn fod wedi dechrau'r chwedl? Un chwedl arall lai gwenieithus yw bod y tylwyth teg yn dawnsio mewn cylch yng Nghapel Newydd a bod dyn o Flaenafon wedi cael ei ddal un dydd yn y ddawns ac wedi diflannu, gan ddychwelyd amser maith wedyn heb gofio o gwbl ymhle y bu. 

Lawrlwythwch gopi o  Daflen Ffigur 8 - Llwybr Torfaen sy'n cynnwys taith gerdded Parc Pont-y-pŵl i Flaenafon yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648329

Nôl i’r Brig