Heol Pentre Piod i Barc Pont-y-pŵl

Darn byr ar hyd y llwybr beicio a thrwy dref Pont-y-pŵl

Cychwyn: Heol Pentre Piod

Diwedd: Canolfan Byw'n Weithgar Pont-y-pŵl

Parcio: Parcio ar y briffordd

Pellter Bras: 4.2 km / 2.6 milltir

Amser sy'n Ofynnol: 1.5 awr

Yn ogystal â'r fasnach ffyniannus mewn crochenwaith Japanaidd, roedd gan Bont-y-pŵl un o'r gweisg argraffu cynharaf un (y pedwerydd a osodwyd yng Nghymru). Ar ôl ei sefydlu ym 1740, roedd fel petai'n cynhyrchu pamffledi eglwysig yn bennaf. Un o'r cyntaf oedd ateb y Parch. Mr Whitfield i lythyr Esgob Llundain sef “ A choice drop of honey from the Rock of Christ; or a short word of advice to saints and sinners now translated into Welsh for the assistance of the Welsh. Pontypool. Printed in the new printing press in the year 1740 ”. Mae'n debyg na fu'r wasg yn gweithredu dros ddwy flynedd, ac ni ymddangosodd gwasg arall tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  

“Pont ap Howel” yw'r bont sy'n cael ei chyfleu ym murlun George Street ac, yn ôl yr hanes, bu clerigwr tybiedig o'r enw Howel ap Dafydd mewn ysgarmes gyda'r diafol yn ystod gwaith codi'r bont hon.  

Roedd Tŷ Parc Pont-y-pŵl ar un adeg yn gartref i deulu Hanbury ac erbyn hyn mae'n gartref i Ysgol Gyfun Gatholig St Alban’s. Cafodd yr ysgol ei sylfaenu, yn lleiandy i ferched yn wreiddiol, gan leianod o Ffrainc ym 1914. Cafodd ei estyn a'i droi'n ysgol uwchradd yn y 1950au ac mae'n ysgol gyfun ers y 1980au.  

Ar un adeg, roedd tir Parc Pont-y-pŵl yn barc ceirw i Ysweiniaid Pont-y-pŵl (teulu Hanbury) a esblygodd dros y blynyddoedd yn barcdir gyda gerddi a ffoleddau. Ym 1920, bu i yswain olaf Pont-y-pŵl, John Capel Hanbury, drosglwyddo perchenogaeth ar y parc 158 erw i'r Cyngor Dosbarth Trefol mewn seremoni grand, gan ddatgloi gatiau'r parc yn seremonïol ag allwedd euraid a datgan mai 'Parc y Bobl' ydoedd bellach.  

Sylfaenwyd y gwaith haearn cyntaf ym Mhont-y-pŵl yn y parc hwn tua dechrau'r 15fed ganrif. Cymerodd teulu Hanbury drosodd y gwaith yn y 1570au a gellir ystyried mai Pontymoel oedd y lle cyntaf yng Nghymru lle sefydlwyd gwaith haearn o unrhyw bwys. Yn rhan olaf yr ail ganrif ar bymtheg, aeth rheolwr y gwaith, Thomas Cooke, ati i berffeithio'r grefft o wneud tunplatiau (neu ei dyfeisio, yn ôl rhai), sef proses o rolio haearn yn llenni tenau, ei wneud yn silindrau ac yna ei haenellu mewn tun.  

Efallai eich bod wedi sylwi bod y rhan fwyaf o Bont-y-pŵl wedi'i stwffio ar lethrau serth iawn y dyffryn. Y rheswm dros hyn yw bod teulu Hanbury wedi prynu'r ardaloedd mwy gwastad o dir o gwmpas Pontymoel a'u defnyddio'n ddiweddarach i adeiladu cartref y teulu a gosod eu parc a'u gerddi, gan adael dim ond y llain gul ar un ochr o Afon Lwyd a'r llechweddau serth er mwyn i'r dref ehangu. 

Lawrlwythwch gopi o daflen Taflen Ffigur 8 - Llwybr Torfaen sy'n cynnwys taith gerdded Heol Pentre Piod i Barc Pont-y-pŵl yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648329

Nôl i’r Brig