Henllys i Lantarnam

Dilyn hen dramffordd

Cychwyn: Henllys Way, Henllys

Diwedd: Y Llyn Cychod, Cwmbrân

Parcio: Parcio ar y ffordd

Pellter Bras: 5.5 km / 3.5 milltir

Amser sy'n Ofynnol: 2 awr

Mae'r llwybr hwn yn mynd â chi drwy ardal sydd â hanes diwydiannol, gan ddilyn Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu mewn mannau.

Dechreuodd y gamlas hon ei hoes yn ddwy ddyfrffordd wahanol, sef Camlas Brycheiniog a'r Fenni a Chamlas Sir Fynwy. Cafodd Cwmni Camlas Sir Fynwy ei Ddeddf Seneddol ar yr un pryd â chynllunio Camlas Brycheiniog a'r Fenni. Penderfynwyd cysylltu'r ddwy ym Mhontymoel. Cynhaliwyd y ddwy gamlas gan dramffyrdd ceffyl a fyddai'n dod â deunyddiau fel glo, calchfarn a mwyn haearn i lawr o'r bryniau. 

Byddwch yn mynd heibio Abaty Llantarnam. Sylfaenwyd yr abaty gwreiddiol ar y safle hwn ym 1175 gan Arglwydd Caerllion, Howel ap Iorwerth. Nid oes dim i'w weld rhagor o'r adeiladau canoloesol, ond cafodd y tŷ ei ailadeiladu'n gyfan gwbl gan Reginald James Blewitt ym 1834-5. Ef oedd perchennog Pwll Glo Porthmawr yng Nghwmbrân Uchaf. Ystyr  ‘Magna Porta’ yw ‘Porth Mawr’. Ar hyn o bryd, mae'r Abaty'n gartref i Chwiorydd Sant Joseff o Annecy.

Mae tŷ tafarn y Greenhouse ar hyd y darn hwn. Uwchben y drws mae arysgrif Cymraeg sy'n dweud ‘ Y Ty Gwyrdd 1719. Cwrw da a seidir i chwi. Dewch y mewn Chwi gewch y brofi ’. Ym 1839, penderfynodd y Siartwyr a oedd wedi blaensymud i lawr Cwm y Dwyrain ar eu ffordd i Gasnewydd aros yma am luniaeth a daeth Mr Blewitt AS o Lantarnam allan i siarad â nhw i geisio'u hatal rhag parhau eu gorymdaith i Gasnewydd, ond cafodd ei anwybyddu. Os hoffech wybod rhagor am hanes mudiad y Siartwyr, mae nifer o wefannau ar gael i chi. Wrth ymyl y Greenhouse mae eglwys Sant Fihangel a'r Holl Angylion. Yn y fynwent mae croes bregethu wedi'i hadfer; mae'r gwaelod a'r siafft yn hynafol, ond mae'r groes yn llawer diweddarach. Un peth arall sydd o ddiddordeb, yn y fynwent ger y dafarn, yw bedd John William Fielding. Yntau, sef Preifat John Williams yng Nghyffinwyr De Cymru, a enillodd Groes Fictoria am ei ran yn amddiffyn Drifft Rorke ar 22 a 23 Ionawr yn y Rhyfel Zwlŵaidd ym 1879. Bu farw ym 1937 yn 75 oed ac fe'i claddwyd gydag anrhydeddau milwrol llawn.

Lawrlwythwch gopi o  Daflen Ffigur 8 - Llwybr Torfaen sy'n cynnwys taith gerdded Henllys i Lantarnam yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648329

Nôl i’r Brig