Llyn Cychod i Amgueddfa Rheilffordd Griffithstown

Taith gerdded hawdd drwy barcdiroedd ac ar hyd glannau'r afon          

Cychwyn:  y Llyn Cychod, Cwmbrân

Diwedd: Amgueddfa Rheilffordd Griffithstown

Parcio: Maes Parcio'r Llyn Cychod, Cwmbrân

Pellter Bras: 6 km / 4 milltir

Amser sy'n Ofynnol: 1.5 - 2 awr

Ar hyd y darn hwn, byddwch yn croesi Afon Lwyd. Arferai'r afon hon fod yn glir fel grisial, ond pan ddaeth y diwydiant, cafodd y dŵr ei lygru a'i afliwio. Ei henw blaenorol oedd 'Torfaen', sef 'Torri Maen' yn arwydd o'r ffordd rymus y brysia'r dŵr i lawr y dyffryn.

Mae'r daith gerdded yn mynd â chi ar draws Chapel Lane. Dyna yw enw'r lôn am fod Capel Bedyddwyr Pont-rhyd-yr-ynn ym mhen draw'r lôn. Pan ddewch oddi ar y llwybr troed i Chapel Lane, y tŷ mawr a welwch gyferbyn yw Tŷ Pont-rhyd-yr-ynn, sef cartref blaenorol teulu Conway, a oedd yn berchen ar Waith Tunplat Edlogan gerllaw. Roedd hwn yn deulu crefyddol iawn a thalodd am adeiladu'r capel ym 1836. Mae'n adeilad deniadol iawn, wedi'i godi yn y modd clasurol Groegaidd gyda phortico Ïonaidd. Gellir gweld beddau teulu Conway yn y fynwent ac mae cedrwydden enfawr yn ychwanegu at fynedfa'r fynwent. Dechreuodd y goeden odidog hon ei hoes yn Lebanon a daeth teulu Conwy â hi'n ôl i'r wlad hon oddi ar wyliau teuluol yn y Wlad Sanctaidd.  

Yn Amgueddfa Rheilffordd Griffithstown mae sied nwyddau'r rheilffordd wedi'i hadfer i'w gogoniant blaenorol ac erbyn hyn mae'n gartref i gasgliad gwych o bethau cofiadwy'r rheilffordd a rheilffyrdd model. Mae Griffithstown, fel y gelwir yr ardal o gwmpas, yn ymfalchïo yn ei threftadaeth reilffyrdd. Enwyd y lle ar ôl Henry Griffiths, gorsaf-feistr cyntaf GWR yng Ngorsaf Heol Pont-y-pŵl gerllaw.

Hefyd, ym 1880, Griffithstown oedd man geni Cymdeithas Gysylltiedig y Dynion Tân a'r Peirianyddion Locomotifau (ASLEF). 

Lawrlwythwch gopi o  Daflen Ffigur 8 - Llwybr Torfaen sy'n cynnwys taith gerdded y Llyn Cychod i Amgueddfa Rheilffordd Griffithstown yma. 

Diwygiwyd Diwethaf: 02/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648329

Nôl i’r Brig