Partneriaeth Adfywio Pont-y-pŵl

Ym 1999 fe wnaeth Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gychwyn Partneriaeth Adfywio Pont-y-pŵl (PAP), i arwain cyfeiriad strategol a gweithredu mentrau adfywio. Mae'r PAP yn cynnwys Aelodau etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Cymuned Pont-y-pŵl yn ogystal ag ystod eang o gynrychiolwyr o sefydliadau cyhoeddus eraill a'r sectorau preifat a gwirfoddol.

Mae gan y Bartneriaeth gyllideb o £30,000 y flwyddyn tuag at waith prosiect o fewn y dref. Mae'r prosiectau diweddar yn cynnwys noddi offer dal planhigion ac arddangosfeydd blodau eraill, gwelliannau amgylcheddol a gwelliannau i'r rhwydwaith CCTV.

Yn ogystal, mae'r PAP wedi buddsoddi'n helaeth mewn digwyddiadau ym Mhont-y-pŵl. Mae PAP yn darparu grant i gefnogi digwyddiadau mawr fel Parti yn y Parc Pont-y-pŵl. Mae PAP hefyd yn ariannu rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2017 drwy weithio mewn partneriaeth â Chyfeillion Tref Pont-y-pŵl.

Yn olaf, mae'r PAP hefyd yn darparu cyfraniadau pwysig i brosiectau mawr megis y Fenter Treftadaeth Treflun, adnewyddu Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl a gwelliannau i'r ardal i gerddwyr yn Stryd Siôr a Heol Masnach.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Economi ac Adnewyddu (Pont-y-pŵl)

Ffôn: 01495 766084

Nôl i’r Brig