Amhariad Covid-19 ar Wasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu
Sut ydw i’n cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio?
Mae’r mwyafrif o staff yn gweithio o gartref ac mae modd cysylltu â hwy ar eu manylion cyswllt arferol.
Os oes gennych ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â chynllunio e-bostiwch planning@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 762200.
Sylwch y gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb i ymholiadau yn ystod yr amser hwn a diolchwn ichi am eich amynedd.
Roedd fy nghais wedi'i drefnu i fynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio, beth sy'n mynd i ddigwydd nawr?
Erbyn hyn, mae Pwyllgorau Cynllunio yn cael eu cynnal yn rhithiol hyd nes y clywir yn wahanol. Cysylltwch â'ch swyddog achos i drafod cynnydd eich cais.
Rwyf wedi cyflwyno cais cynllunio sy'n aros am benderfyniad. A fydd yn cael ei ystyried o fewn y cyfnod statudol 8 wythnos?
Bydd, pan fydd amgylchiadau’n caniatáu. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd y swyddog achos cynllunio yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod.
A fedraf barhau i gyflwyno cais cynllunio?
Medrwch, mae’r Cyngor yn parhau i dderbyn ceisiadau, ond yn electronig yn unig drwy’r Porth Cynllunio www.planningportal.co.uk neu drwy e-bost i planning@torfaen.gov.uk
Gallwch dalu’r ffioedd ymgeisio yma (dewiswch y siop Cynllunio a Datblygu)
Os byddwch yn dod ar draws problem wrth ddefnyddio’r wefan, cysylltwch â Galw Torfaen ar 01633 648009.
Mae'n annhebygol y bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir trwy'r post yn cael eu symud ymlaen ar yr adeg hon.
Fedrai gynnig sylwadau ar geisiadau cynllunio?
Medrwch. Gallwch gyflwyno sylwadau ar lein ar System Mynediad Cyhoeddus y Cyngor neu drwy e-bost planning@torfaen.gov.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod y cais.
A fydd Swyddogion Cynllunio yn parhau i ymweld â safleoedd?
Bydd, mi fydd ymweliadau â safleoedd yn cael eu trefnu lle bernir eu bod yn hanfodol. Gwneir ymdrechion i osgoi / lleihau cyswllt ag unigolion lle bo hynny'n bosibl. Asesir yr angen i ymweld â safle fesul achos, gan ystyried natur y datblygiad a'r effaith sy'n gysylltiedig ag ef. Os oes angen mynediad i alluogi'r swyddog i weld y safle, cysylltir â chi fel y gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Cyngor cyn-ymgeisio
Rydym yn parhau i ddarparu cyngor cyn ymgeisio, er y gallai fod rhywfaint o oedi cyn y ceir ymatebion.
Gorfodi
A fyddech cystal â chyflwyno unrhyw gwynion sy’n ymwneud â gorfodi, ar ffurf e-bost i planning@torfaen.gov.uk
Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddelio â chwynion, mae'n debygol y bydd oedi oni bai eu bod yn cael eu hystyried yn rhai brys.
Mae Swyddogion Gorfodi yn cynnal ymweliadau â safleoedd lle bernir eu bod yn hanfodol. Gwneir ymdrech i osgoi / lleihau cyswllt ag unigolion lle bo hynny'n bosibl. Mae'r angen i gynnal ymweliadau â safleoedd yn cael ei asesu fesul achos, gan ystyried natur a difrifoldeb y tor-cyfraith a'i effaith gysylltiedig.
Beth sy’n digwydd i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd?
Daeth yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) Torfaen a'r dogfennau cysylltiedig i ben ar 30 Ebrill 2021. Bellach, rhoddir sylw i'r holl sylwadau mewn 'Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol' i'w ystyried gan y Cyngor, cyn i benderfyniad gael ei wneud ar fersiwn 'Adnau' nesaf y CDLlN. Os a phan gymeradwyir y CDLlN Adnau bydd rownd arall o ymgynghori a chyfle i roi sylwadau am y CDLlN Adnau cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Sut ydw i’n cysylltu â’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu?
Mae'r holl staff Rheoli Adeiladu yn gweithio o bell a gellir cysylltu â hwy ar eu manylion cyswllt arferol.
Eich Tîm Rheoli Adeiladu:
Lee Redman – Arweinydd Tîm
Ffôn: 01633 647297 neu 07980 682320
E-bost: lee.redman@torfaen.gov.uk
Richard Duggan - Uwch Syrfëwr Rheoli Adeiladu (De)
Ffôn: 01633 648116 neu 07980 682321
E-bost: richard.duggan@torfaen.gov.uk
Gareth Morgan - Syrfëwr Rheoli Adeiladu (Gogledd)
Ffôn: 01633 647298 neu 07980 682323
E-bost: gareth.morgan3@torfaen.gov.uk
Leanne Walters - Syrfëwr Rheoli Adeiladu Cynorthwyol
Ffôn: 01633 647300
E-bost: leanne.walters@torfaen.gov.uk
Am ymholiadau cyffredinol ynghylch rheoli adeiladu e-bostiwch buildingcontrol@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 647300.
Fedrai fynd ati i gyflwyno cais rheoli adeiladu?
Medrwch, mae adran Rheoli Adeiladu Torfaen yn parhau i dderbyn ceisiadau. Gofynnwn i geisiadau gael eu cyflwyno'n electronig lle bo hynny'n bosibl. Gellir gwneud hyn trwy'r Porth Cynllunio ar www.buildingcontrol.planningportal.co.uk neu drwy lawr lwytho ein Ffurflen Gais Rheoli Adeiladu ac e-bostio eich cais i buildingcontrol@torfaen.gov.uk
Rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau dros ffôn fel arfer a gallwch wneud hyn rhwng 8.30-13.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy ffonio Leanne Walters ar 01633 647300.
Rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau trwy'r post ond rydym yn rhagweld y bydd oedi oherwydd bod staff yn gweithio gartref.
Gallwch dalu’r ffioedd ymgeisio yma (dewiswch y siop gynllunio a datblygu a defnyddio'ch cyfeirnod Porth Cynllunio (os yw'n berthnasol) neu gyfeiriad y safle).
A fydd Swyddogion Rheoli Adeiladu yn parhau i ymweld â safleoedd?
Mae Swyddogion Rheoli Adeiladu yn cynnal archwiliadau a drefnwyd ar gyfer safleoedd ac arolygiadau brys hy Strwythurau Peryglus.
Bydd archwiliad safle yn parhau i gael ei ystyried lle mae'n hanfodol ac maent yn cael eu hasesu o ran risg ar sail unigol. Lle bo modd, mae Rheoli Adeiladu Torfaen yn defnyddio dulliau anghysbell o wirio cydymffurfiaeth, er enghraifft defnyddio ffotograffau digidol a, fideo neu ddulliau anghysbell eraill o wirio cydymffurfiaeth, gan ystyried natur y gwaith a'r lefelau risg sy'n gysylltiedig ag ef.
Os oes angen i chi drafod ymweliadau, cysylltwch â’ch syrfëwr ar y manylion cyswllt isod neu drwy ffonio 01633 647300 neu e-bostio buildingcontrol@torfaen.gov.uk
Richard Duggan - Uwch Syrfëwr Rheoli Adeiladu (De)
Ffôn: 01633 648116 neu 07980 682321
E-bost: richard.duggan@torfaen.gov.uk
Gareth Morgan - Syrfëwr Rheoli Adeiladu (Gogledd)
Ffôn: 01633 647298 neu 07980 682323
E-bost: gareth.morgan3@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 10/12/2021
Nôl i’r Brig