Ysgrifennydd Cymru yn gweld prosiectau adnewyddu cymunedol yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Medi 2022

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Robert Buckland wedi gweld dau brosiect cymunedol yn Nhorfaen sy’n derbyn cyllid Llywodraeth y DU i gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol ac i ymladd yn erbyn tlodi bwyd.

Roedd Ysgrifennydd Cymru yng Nghwmbrân ddydd Mercher (28 Medi) i weld sut y mae £618,403 a ddyrannwyd i fenter Food4Growth dan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned.

Gwelodd lansiad y Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn yr hydref 2021 £46m yn cael ei roi i 160 o brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys £3.8m wedi ei ddyrannu i saith o fentrau lleol gwahanol yn Nhorfaen, gan gynnwys Food4Growth.

Ar ddydd Mercher, ymwelodd Robert Buckland a dau o brosiectau Food4Growth – gorsaf radio Able Radio sydd wedi agos siop fwyd gymunedol a’r cynllun dosbarthu bwyd Tasty Not Wasty.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Robert Buckland: “Roedd yn wych bod yng Nghwmbrân i weld sut mae’r cyllid a roddwyd ychydig o fisoedd yn ôl yn gwneud daioni yn ein cymunedau.

“Rydym eisiau datgloi potensial pob un o’n hardaloedd lleol a thargedu cyllid arwyddocaol i’r mannau sydd ei angen a lle gall wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer Sgiliau ac Adfywio: “Rydym wrth ein bodd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dod i ymweld â dau brosiect yn Nhorfaen.

“Rydym yn falch iawn o’r ddau brosiect yma. Maent wedi gweithio’n galed iawn i lansio’r prosiectau yma ac yn ymroddedig i helpu’r gymuned. 

“Mae’r argyfwng costau byw yn cael ei deimlo gan bawb, felly mae’n wych gweld prosiectau fel hyn yn helpu pobl. Byddai’n dda cael mwy o brosiectau fel hyn yn Nhorfaen.

Meddai Shaun O’Dwyer- Rheolwr-gyfarwyddwr, Able Radio: “Mae’r grant Food4Growth wedi caniatáu i Able ddarparu cyfleoedd addas i’r sawl rydym yn eu cynorthwyo.

“Yn bwysig, mae wedi caniatáu i Able ailddatblygu ein safle a gosod twnelau polythen, siop gynaliadwy sy’n gweithredu fel model talu fel y gallwch.

“Mae cynorthwyo’r gymuned yn amcan pwysig i Able; mae’r cyfleoedd ymgysylltu a’r perthnasoedd sydd wedi eu meithrin gyda’r cyllid hwn wedi creu rhwydwaith gref yn Nhorfaen, gan ganiatáu i gymunedau gael cynnyrch ffres, cynaliadwy, wrth gydnabod galluoedd a chryfderau’r bobl gydag anableddau dysgu rydym yn eu cynorthwyo.”

Meddai Sabrina Cresswell, Cyfarwyddwr, Tasty Not Wasty: “Gyda chymorth gan brosiect Food4Growth rydym nawr yn gallu cynyddu defnydd a hyfforddi gwirfoddolwyr lleol. Mae wedi ein galluogi i ddarparu bwyd am bris is a helpu lleihau gwastraff bwyd a dod â’r gymuned at ei gilydd”.

Y llynedd, lansiodd Llywodraeth y DU dair cronfa newydd a oedd yn cynnwys y Gronfa Ffyniant Bro a welodd £121m yn cael ei ddyrannu i 10 prosiect mawr yng Nghymru a’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a welodd £46m yn cael ei ddyrannu i 160 o raglenni newydd sy’n buddsoddi mewn pobl, yn hybu sgiliau ac yn cefnogi busnes lleol.  

Bydd y £200 miliwn o gyllid ledled y DU drwy’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer lansio y Gronfa Ffyniant Gyffredin, cynllun a fydd yn gweld cyllid ledled y DU yn o leiaf cyfateb ag arian UE, yn dod i ryw £1.5 biliwn y flwyddyn.  

Mae Food4Growth yn brosiect cydweithredol rhwng Torfaen, Caerffili a Sir Fynwy gyda’r nod o ganfod dulliau newydd o ddatblygu cadwyni bwyd a chreu dull system gyfan.

Gyda chynnydd anferth yn y nifer o bobl mewn tlodi bwyd, mae’r prosiect hefyd wedi lansio Cynllun Bwyd Cymunedol, lle mae sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol neu’r gwasanaethau sector cyhoedd yn cael eu hannog i wneud cais am grant i helpu i greu atebion cynaliadwy i dlodi bwyd. 

Ariennir prosiect Food4Growth gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/09/2022 Nôl i’r Brig