Diwrnod Cymuned Wcráin

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Medi 2022
Ukrainian

Cafodd mwy na 30 o Wcrainiaid y cyfle i gael gwybod am – a phrofi – rhai o’r cyfleoedd dysgu gwahanol sydd ar gael gan Ddysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen.

Mynychodd teuluoedd ac unigolion o Wcráin, o bob cwr o Went, Ddiwrnod Cymunedol yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog ar ddydd Sadwrn 24 Medi a rhoi cynnig ar weithdai turnio pren, addurno cacennau a cherameg.

Cawsant flas ar gartref hefyd pan gafodd twmplenni Wcráin o’r enw pierogies eu gweini.

Meddai Yulia, 43, Hyrwyddwr Cymunedol Wcráin o Bont-y-pŵl: “Cawsom amser gwych. Roedd y pierogies yn syrpreis braf ac roedd y plant wrth eu boddau yn turnio pren, y dosbarth cyfrifiadureg a chrochenwaith.”

Trefnwyd y diwrnod gan dîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cyngor Torfaen a Chynghrair Wirfoddol Torfaen, a’r nod oedd cyflwyno’r gymuned sydd newydd setlo o Wcráin i’r gwasanaethau cyflogaeth a chymorth ehangach sydd gan Dorfaen i’w cynnig.

Roedd Tîm Sgiliau a Chyflogadwyedd Torfaen wrth law i ateb cwestiynau ynglŷn â chael swyddi yn yr ardal leol. Gan ddefnyddio’r ‘Say Hi App’ roeddent yn gallu siarad gyda gwesteion ynglŷn â sut gallent gael cymorth gan y tîm yn eu hiaith eu hunain.

Roedd Danya, 34, o Bont-y-pŵl yn gyfrifydd yn Wcráin ac mae nawr yn lanhawraig yma yn Nhorfaen. Rhoddodd ei manylion i’r tîm i gael cyngor ar ailgydio yn ei rôl flaenorol yma yn y DU. Meddai: ‘Rwy’n edrych ymlaen at weld beth allan ei wneud i fy helpu’.

Dywedodd Jen Lewis, Swyddog Ymgysylltiad Cymunedol Dysgu Oedolion yn y Gymuned: “Roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn ac roedd yn wych gweld pobl yn mwynhau eu hunain wrth roi cynnig ar rywbeth newydd, fel dawnsio neu addurno cacennau.

“Y nod oedd dwyn y gymuned at ei gilydd a dangos sut y gallwn ni eu cefnogi pan fyddant yn teimlo’n barod i ddysgu sgiliau newydd neu chwilio am waith.”  

Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru yn cysylltu teuluoedd, cyplau ac unigolion sy’n dianc rhag y rhyfel yn Wcráin gyda phobl yng Nghymru sydd wedi cynnig bod yn noddwyr.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn dod yn noddwr, mae gwybodaeth am y cynllun a’r help a’r cymorth sydd ar gael i noddwyr i’w gweld ar ein gwefan.   

I gael rhagor o wybodaeth am ddosbarthiadau Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen a hyfforddiant arall sydd ar gael, ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/09/2022 Nôl i’r Brig