Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Medi 2022
Bydd cyfoeth o weithgareddau yn Nhorfaen yr wythnos nesaf fel rhan o’r #WythnosFawrWerdd, sy’n cychwyn ddydd Sadwrn.
Bydd Head4Arts yn cynnal digwyddiadau Cariad Coed sy’n dathlu coed ym Mharc Pont-y-pŵl, gyda chymorth gan Gyngor Torfaen, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ac Amgueddfa Torfaen.
Bydd Llysgenhadon Hinsawdd Torfaen hefyd yn cynnal dau sesiwn gwybodaeth yn y Siop Dim Gwastraff yng Nghwmbrân, ynghyd â thaith wedi ei threfnu yng Nghoedlan Gymunedol Blaen Bran.
Meddai Bethan Lewis, Gyfarwyddwr Creadigol Cynorthwyol gyda Head4Arts, sydd wedi trefnu rhaglen Cariad Coed: "Mae Cariad Coed yn pwysleisio manteision coed ac yn taflu goleuni ar harddwch naturiol Parc Pont-y-pŵl.
"Rydym yn gobeithio y bydd y gweithgareddau am ddim yn annog pobl i gymryd sylw o’u hamgylchfyd lleol a’u hysbrydoli i weithredu’n gadarnhaol i helpu i ofalu amdano.”
Mae’r Wythnos Fawr Werdd, sy’n rhedeg rhwng dydd Sadwrn 24 Medi a dydd Sul Hydref 2, yn fenter ledled y DU sy’n dathlu gweithgareddau cymunedol i ddelio gyda newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn natur.
Mae’r rhaglen Cariad Coed yn cychwyn gydag Arty Parky ar ddydd Sadwrn 24 Medi, pan fydd pobl o bob oed yn cael eu gwahodd i ddefnyddio deunyddiau naturiol fel concyrs, dail a brigau i greu darlun dir anferth.
Bydd y digwyddiad hwn, sydd wedi dod yn ffefryn hydrefol ym Mharc Pont-y-pŵl, yn digwydd yn gynharach nag arfer eleni a bydd blas Wythnos Werdd arbennig iddo.
Mae rhaglen amrywiol drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys sut i wneud paent o ddeunyddiau organig, cymryd rhan mewn dosbarth ymarfer awyr agored, hwyl gyda’r grŵp Wild Tots neu mynd ar daith dywys natur drwy Barc Pont-y-pŵl.
Bydd ysgolion cynradd lleol yn cymryd rhan gyda Her Ddyddiol Cariad Coed lle bydd disgyblion yn cwblhau gweithgareddau celfyddyd sy’n dathlu coed bob dydd yn ystod yr Wythnos Werdd.
Bydd Hwyl-ddydd y Teulu Cariad Coed ar ddydd Sadwrn 1 Hydref yn cynnwys adrodd straeon, crefftau naturiol a cherdded yn y coed gyda chyfle i wrando ar fforestydd glaw Cymru drwy god QR a grëwyd gan yr artist synau amgylcheddol Cheryl Beer.
Bydd cyfle i fyfyrio yn ystod y digwyddiad clo, Evergreen Art, ar ddydd Sul 2 Hydref, lle bydd gweithgareddau creadigol wedi eu hysbrydoli gan natur yn cael eu defnyddio i gynorthwyo pobl sydd wedi profi profedigaeth.
I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau a manylion sut i drefnu lle am ddim ym mhob un o’r gweithgareddau, ewch i wefan Head4Arts: www.head4arts.org.uk
Cynhelir sesiynau gwybodaeth Llysgenhadon Hinsawdd Torfaen yn y Siop Dim Gwastraff, Redbrook Way, Pentre’ Isaf, Cwmbrân NP44 3QT, o 10am ar ddydd Sadwrn 24 Medi a dydd Sul 2 Hydref.
Bydd gwybodaeth ar dyfu eich llysiau eich hun a chadw hadau, beiciau trydan, beicio, Teithio Llesol o gwmpas y fwrdeistref a chewynnau amldro. Bydd yna her hefyd i gael hyd i fryn mawr!
Mae’r daith o gwmpas y goedlan yn cael ei chynnal yng Nghoedlan Blaen Bran ar ddydd Iau 29 Medi – cyfarfod yn y maes parcio isaf am 10am. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.blaenbran.uk
Chwiliwch am #WythnosFawrWerdd ar y cyfryngau cymdeithasol neu dilynwch @TorfaenCouncil a @ZeroWaste ar Facebook i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau eraill.