Gwyriad Llwybr Troed yn cael y golau gwyrdd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Medi 2022
footpath

Mae hawl dramwy amgen i’r cyhoedd wedi agor i gerddwyr sy’n golygu nad oes angen nawr cerdded drwy diroedd Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Mae’r llwybr newydd, sy’n disodli’r hen lwybr, wedi ei wyro i ffwrdd oddi wrth fynedfa’r ysgol ymhellach ymlaen ar Folly Road yn Nhrefddyn, ac mae nawr yn rhedeg i’r gogledd ar hyd ffin ddwyreiniol ysgol gynradd newydd YGG, cyn ymuno gyda llwybr wedi’i ffensio ar dop safle’r ysgol.

Mae’r newid wedi digwydd oherwydd pryderon amddiffyn disgyblion yn yr ysgol ac i warchod buddiannau aelodau’r cyhoedd sy’n defnyddio’r llwybr.

Bydd cerddwyr yn falch o glywed bod y llwybr newydd yn llai serth a bod gwaith plannu newydd hefyd wedi ei wneud.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/09/2022 Nôl i’r Brig