Cysylltu gwirfoddolwyr yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22 Medi 2022
Digger trainees 1

Os ydych awydd gwirfoddoli ond ddim yn gwybod lle i gychwyn, mae gan Cysylltu Torfaen fwy na 60 o swyddi gwirfoddolwyr ar gael.

Mae Cysylltu Torfaen yn llwyfan rhwydweithio cymdeithasol newydd sy’n hyrwyddo gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol lleol ac yn cysylltu gwirfoddolwyr gyda sefydliadau sydd angen cymorth.

Gall hyn gynnwys helpu am un tro neu ar sail ad hoc i ddod yn wirfoddolwr rheolaidd.

Un grŵp sy’n defnyddio’r safle Cysylltu i ddenu gwirfoddolwyr newydd yw Grŵp Coedlan Gymunedol Blaen Bran. Maent yn gweithio gyda grŵp bychan rheolaidd o wirfoddolwyr i helpu i reoli’r goedlan 10 erw rhwng Cwmbrân a Phont-y-pŵl.

Weithiau mae’r gwaith yn gofyn am wirfoddolwyr i ddysgu sgiliau newydd neu ddilyn hyfforddiant penodol, a all arwain at gymwysterau a phrofiad gwaith.

Yn ddiweddar, ymgymerodd tri i’r gwirfoddolwyr â hyfforddiant peiriant cloddio fel rhan o brosiect i wella draeniad mewn rhai ardaloedd, adeiladu grisiau newydd a chlirio llwybrau troed, diolch i £7,000 mewn cyllid gan Drafnidiaeth Cymru.

Dywedodd David Williams, sy'n aelod yng Nghoedwig Blaen Bran:

“Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer grwpiau cymunedol bach fel hwn. Mae Cysylltu Torfaen yn adnawdd gwych i aelodau’r gymuned sy’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ar stepen eu drws. Rydym yn hysbysebu gweithgareddau a chyfleoedd prosiect yn rheolaidd ar y safle, felly edrychwch ar y safle yn rheolaidd."

Mae gwirfoddolwyr sy’n cynnig eu gwasanaethau drwy wefan Cysylltu Torfaen yn derbyn bathodynnau digidol, sy’n arddangos eu sgiliau, cymwysterau a’u gwobrau penodol nhw.

Bydd hyn yn helpu aelodau eraill ar y safle i chwilio am ddarpar wirfoddolwyr yn seiliedig ar eu diddordebau a’u statws bathodyn digidol.

I gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli fel y rhai yng Nghoedlan Gymunedol Bran Blaen, ewch draw i https://connecttorfaen.org.uk/ lle bydd rhestr o’r cyfleoedd diweddaraf.

Mae Grŵp Cymunedol Blaen Bran hefyd yn cynnal sesiynau gwirfoddoli mynediad agored bob dydd Mawrth o 9am – lle gall pobl gyfrannu cymaint o amser ag yr hoffent.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/09/2022 Nôl i’r Brig