Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 21 Medi 2022
Eve Griffiths pictured with Greg Tippings - Junior National Coach for Squash Wales
Mae cronfa sydd wedi cefnogi cannoedd o athletwyr uchelgeisiol yn Nhorfaen wedi ailagor i geisiadau newydd.
Gorfodwyd Ymddiriedolaeth Chwaraeon Mic Morris atal ei rhaglen grant am y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig.
Nawr, gall athletwyr 11-21 oed, sy’n byw yn Nhorfaen, wneud cais unwaith eto am grantiau i helpu gyda chostau fel teithio, llety, dillad ac offer chwaraeon.
Mae seren sboncen Cymru Eve Griffiths, 16, o Gwmbrân, wedi derbyn mwy na £700 gan yr Ymddiriedolaeth ers 2018.
Mae’r arian wedi talu am hyfforddiant ychwanegol a mynediad i gystadlaethau ledled y DU.
Mae Eve, sydd wedi cynrychioli De-ddwyrain Cymru ar Lefel Sirol ers pan oedd yn 9 oed, hefyd wedi chwarae gyda sgwadiau Dan 13 a Dan 15 Cymru.
Mae nawr yn gobeithio sicrhau cyllid ychwanegol i brynu offer ar gyfer Pencampwriaethau Iau Prydain yn Sheffield ym mis Hydref eleni.
Nesaf, mae Eve yn gobeithio cael ei dewis ar gyfer y sgwad cenedlaethol ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop a’r Byd yn 2023.
Meddai Eve, a ddechreuodd chwarae sboncen pan oedd yn chwech: “Mae cyllid Ymddiriedolaeth Mic Morris wir wedi fy helpu o ran cyflawni fy mreuddwyd, sef cynrychioli fy ngwlad.
“Rwyf mor ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Mic Morris am gyfrannu tuag at yr hyn rwyf wedi ei gyflawni hyd yma a, gobeithio, yr hyn allaf ei gyflawni drwy weddill fy ngyrfa iau. Diolch yn fawr i chi am eich help, mae’n golygu llawer iawn i mi."
I fod yn gymwys, rhaid i bobl ifanc fodloni un neu fwy o’r canlynol:
- Perfformiwr lefel byd
- Elite Cymru
- Aelod o dîm neu sgwad cenedlaethol fel y pennir yn y rhestr a ddarperir gan Chwaraeon Cymru
- Dod yn y 5 uchaf o ran lefel perfformiad yng Nghymru a/neu yn y 10 uchaf ar gyfer Prydain Fawr (lefel perfformiad grŵp oedran ar gyfer eu disgyblaeth)
Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Mic Morris, Chris Vorres: "Rydym yn gwerthfawrogi’r straen y gall roi ar gyllideb y teulu pan fydd plentyn talentog eisiau symud ymlaen ar lefel gystadleuol. Gall costau teithio ac offer fod yn broblem. Mae’r ymddiriedolaeth yma i helpu gyda’r costau hynny, ac oll er cof am yr athletwr lleol Mic Morris, a oedd yn rhedwr Rhyngwladol dros Brydain."
Mae ffurflenni cais ar gael ar wefan Torfaen neu drwy gysylltu gyda Christine Philpott ar xx neu ebost Christine.philpott@torfaen.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun, 3 Hydref 2022.