Ymgynghori ar y gamlas

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 20 Medi 2022

Mae’r gamlas yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Torfaen i drigolion lleol ac ymwelwyr, ac mae’n ardal gadwraeth bwysig.

Mae darn pedair milltir a hanner o’r llwybr, rhwng Sebastopol a Chasnewydd, ym meddiant ac yn cael ei reoli gan Gyngor Torfaen, , a benododd Gydgysylltydd Camlas y llynedd i helpu i ddatblygu ei photensial.

Fel rhan o’r cynlluniau, hoffai’r cyngor wybod sut mae pobl yn defnyddio’r gamlas, beth ydych yn ei hoffi amdani a beth arall yr hoffech ei weld yno. Os nad ydych yn defnyddio’r gamlas, gallwch awgrymiadau syniadau o’r hyn a fyddai’n eich denu. Gallwch gwblhau’r arolwg yma.

Meddai Alice Rees, Cydgysylltydd y Gamlas: “Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn defnyddio’r gamlas yn rheolaidd am amrywiol resymau. Hoffem gael gwybod beth arall a fyddai’n eich annog chi i’w defnyddio fwy, neu beth a fyddai’n denu’r sawl nad ydynt erioed wedi ymweld.

“Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad arlein neu mae croeso i chi ddod draw i un o’n sesiynau galw heibio.”

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae’r gamlas yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd adloniadol i’r gymuned cychod, trigolion ac ymwelwyr, gan gynnwys beicio, cerdded, marchogaeth a physgota ar lwybr y gamlas. Mae profiadau gwirfoddoli ar gael hefyd, ynghyd â rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u trefnu.

“Rydym eisiau annog mwy o bobl i ddefnyddio’r gamlas drwy gynnig mwy i weithgareddau sy’n gydnaws â’i statws cadwraethol a gwerth ecolegol.

“Bydd yr adborth o’r arolwg hwn yn helpu i fwydo gwybodaeth i ddatblygu ‘Strategaeth Ddrafft a Chynllun Gweithredu’ ar gyfer y gamlas, a bydd ymgynghori ar hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”

Mae’r ymgynghoriad yn cychwyn ar ddydd Mawrth 20 Medi ac yn dod i ben ar ddydd Mawrth 18 Hydref.

Mae copïau papur hefyd ar gael o’r Ganolfan Ddinesig a lleoliadau ar hyd y gamlas (cysylltwch ag Alice i gael manylion pellach).

Gallwch hefyd gyfarfod y tîm yn y sesiynau galw heibio hyn:

Dydd Mawrth 27 Medi
10:30am – 2:30pm
Canolfan Ieuenctid Ashley House /Y Gampfa, Mount Pleasant Road, Pontnewydd, Cwmbrân, NP44 1AN
Parcio am ddim ar gael

Dydd Mercher 28 Medi  
2:30pm – 5:30pm
Y ganolfan Gymunedol (Cyngor Cymuned Cwmbrân), Ventnor Road, Cwmbrân. NP44 3JY 
Nodwch bod y Ganolfan Gymunedol wedi ei lleoli y tu ôl i brif Dŷ’r Cyngor
Parcio am ddim ar gael

Os hoffech adael eich barn a sylwadau yn Gymraeg mewn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, cysylltwch ag alice.rees@torfaen.gov.uk dri diwrnod cyn y sesiwn rydych yn ei fynychu.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/09/2022 Nôl i’r Brig