Hwyl i'r Teulu ar y Fferm

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Medi 2022
Greenmeadow Farm Tractor Pull

Mae Sioe Greenmeadow yn ôl ar y fferm y penwythnos yma ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd.

Mae gan y sioe ystod eang o weithgareddau, arddangosiadau ac adloniant difyr, yn ogystal â chyfle i weld yr holl arddangosion gwych yn y 30ain rhifyn o'r Sioe Arddwriaeth a Chrefftau y Sul hwn.

Mae gan y digwyddiad ddosbarthiadau i bawb ac mae amser o hyd i ddechreuwyr llwyr neu'r rheini sy'n hen law ar y sin arddwriaeth a chrefft i roi cynnig a chystadlu gyda'u blodau, tomatos neu sbwng Victoria.

Eleni hefyd mae llawer o gystadlaethau i blant gan gynnwys coginio, ffotograffiaeth ac ysgrifennu.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau: "Mae sioe'r fferm yn ddigwyddiad teuluol gwych gyda rhywbeth i bawb drwy gydol y dydd. Gallwch rhoi cynnig ar rhywbeth newydd, mwynhau gemau traddodiadol ac ymuno yn yr holl hwyl.

"Byddwn hefyd yn cynnig bwyd bendigedig fydd ar gael drwy'r dydd o'n caffi Crwybr ac fe fydd Pizza Stone Wales ar y safle yn gwerthu eu Pizza blasus wedi'u coginio mewn ffwrn goed, a'u pwdinau."

Galwch heibio'r fferm i gael copi o'r rhaglen neu ei lawr lwytho ar www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk

Gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw ac mae hefyd gyfle i’w prynu ar y diwrnod. Gallwch fynd ati i brynu tocynnau ar lein, neu drwy ffonio 01633 647662.  

Y dyddiad cau ar gyfer y dosbarthiadau yw dydd Iau, 8 Medi.

Isod, gweler rhai amseroedd allweddol ar gyfer y rhaglen:

  • 10am - Sioe yn agor 
  • 10.30am – 2pm - Ymunwch â Gwent Guild of Weavers, Spinners and Dyers a chael tro yn nyddu, ffeltio a gwehyddu 
  • 10.45 - 11.45am - Heads of the Valley Tang Soo Do – dysgwch bopeth am y grefft ymladd hon o Gorea, a beth am rhoi cynnig ar y gamp
  • 11am – 3pm - Paentio wynebau gyda ‘Bel's Face painting’
  • 11.30am - Dangos sut i odro - cewch gwrdd â'n fuwch hyfryd Friesian 'Lottie' yn y parlwr godro
  • 11.45am - Hyfforddi cŵn – dewch i gwrdd â Tyrone sydd â dros 20 mlynedd o brofiad yn hyfforddi a gweithio gyda chŵn adara. Fe all eich dysgu sut i hyfforddi’ch ci
  • 11.45am - Cerdd a Chelf ‘Upbeat’ – mwynhewch y gerddoriaeth, ymunwch â sesiwn ddrymio a chael hyd i’ch rhythm
  • Canol Dydd - Barod am reid ar gefn Tractor a Threlar?
  • 12.15 - 1.15pm - Diwrnod i’r Dywysoges – beth am ychwanegu ychydig o ddisgleirdeb i’ch diwrnod, dewch i gwrdd a’n Tywysogesau a gwireddu breuddwyd rhywun
  • 12.30pm - Cerdd a Chelf ‘Upbeat’ – estynnwn groeso arall i dîm Upbeat am sesiwn arall i godi’r galon
  • 1.45pm - Hyfforddi cŵn – ydych chi’n barod i hyfforddi eich ci?
  • 1.45 - 2.45pm - Sioe Hud ‘The Balloonman’ a Modelu Balŵns - rhyfeddwch ar y triciau anhygoel o flaen eich llygaid!
  • 2pm - Barod am gyfle arall i gael reid ar gefn Tractor a Threlar
  • 2 - 4pm - ‘Circus of Positivity’ - gwyliwch y jyglo penigamp a’r gweithgareddau syrcas o flaen eich llygaid!
  • 2.30pm - Agor y Sioe Arddwriaethol a Chrefftau - crwydrwch y safle a mwynhau’r holl arddangosion campus
  • 3pm - Tynnu Tractor - tebyg i dynnu’r rhaff ond gyda thractorau!! Ymunwch yn y sbri a darganfod pa aelodau o dîm y fferm yw’r cryfaf!
  • 4pm - Cyflwyno gwobrau’r sioe i’w ddilyn gan ocsiwn, felly beth am fachu bargen. Mae’r holl elw’n mynd i elusennau.
  • 4pm - Amser am y reidiau olaf ar y Tractor a Threlar
  • 4.30pm - Amser Te yr Anifeiliaid
  • 5pm - Y Sioe a’r Fferm yn cau

Mae’r rhaglen lawn ar gael ar wefan y fferm, ewch i Fferm Gymunedol Greenmeadow – Rhaglen Sioe Greenmeadow

Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023 Nôl i’r Brig