Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Medi 2022
Mae fandaliaid wedi difrodi cae chwaraeon pob tywydd ac ardal gemau am yr ail dro mewn llai na blwyddyn.
Mae tanau wedi llosgi rhannau o’r cae a thynnwyd ffensys i lawr ym Mharc Sunnybank, yn Griffithstown, dros benwythnos gŵyl banc mis Awst.
Dyma’r ail waith i’r cyfleusterau gael eu fandaleiddio ers iddynt gael eu hailwampio ym mis Medi y llynedd, am gost o 17K.
Ym mis Rhagfyr, cafodd llinellau duon a graffiti aflednais eu peintio ar yr AstroTurf.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae wastad yn drist clywed am fandaliaeth yn ein parciau.
“Nid yw’n flwyddyn hyd yn oed ers pan gafodd y cae yma ei ailwampio, a nawr rhaid canfod arian i drwsio a glanhau’r ardal o ddarnau o bren a sbwriel.
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n gwybod rhywbeth am y fandaliaeth ddifeddwl yma gysylltu gyda’r cyngor neu'r Heddlu "
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y fandaliaeth, ffoniwch y Cyngor ar 01495 762200 neu cysylltu â Heddlu Gwent Police.