Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Hydref 2022
Mae gan drigolion ddewis arall nawr yn hytrach na thaflu eitemau bach pan fyddant yn torri, diolch i siop drwsio newydd.
Agorwyd Caffi Trwsio Torfaen, a redir gan Gyngor Torfaen ac Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers, yn swyddogol ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yr wythnos ddiwethaf fel rhan o Wythnos Ailgylchu.
Bydd y caffi yn rhedeg yn wythnosol, ar ddydd Mercher a dydd Iau, rhwng 9.30am a 12.30am, lle gall pobl fynd ag eitemau i gael cyngor ar eu trwsio.
Gellir mynd ag eitemau bach fel tegelli, tostwyr a sugnwyr llwch bach i’r siop i gael diagnosis a thrwsio ar y safle os yw’n rhywbeth syml.
Gobeithir y bydd y caffi yn lleihau faint o eitemau trydanol bach sy’n mynd i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ i gael eu gwaredu.
Mae’r cyngor yn anelu at ailgylchu 70 y cant o’r holl wastraff erbyn 2024.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Rydym wrth ein boddau yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers i gynnig y gwasanaeth hwn i drigolion.
“Dylid bob amser ceisio trwsio ac ailddefnyddio eitemau cyn eu hailgylchu neu eu hanfon i’w llosgi, felly rydym yn gobeithio y bydd trigolion yn manteision ar y cynnig yma.
“Bydd y caffi ond yn gallu edrych ar eitemau bach, a’r rheol gyffredinol yw – os yw’n rhy fawr i’w gario, ni fedrent ei drwsio.”
Dywedodd Alun Harris, Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers: “Mae trwsio ac ailddefnyddio yn ffactor gynyddol yn nod Cymru i fod yn sero net erbyn 2030, a bydd Caffis Trwsio yn rhan annatod o hyn yn y blynyddoedd i ddod.
“Bydd y rhain yn gyfleusterau gwych i aelwydydd i drwsio eitemau y byddent fel arall yn eu taflu allan.
“Mae Wastesavers yn ddiolchgar iawn i fod yn rhedeg Caffi Trwsio Pont-y-pŵl mewn partneriaeth â Chyngor Torfaen.”
Mae Caffi Trwsio Pont-y-pŵl yn ymuno â rhwydwaith o gaffis trwsio sy’n dod dan enw Caffi Trwsio Cymru. I gael gwybod mwy, ewch i https://repaircafewales.org/