Mannau cynnes yn agor yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Hydref 2022
panteg cooks (2)

Mae llyfrgelloedd ar draws Torfaen nawr yn cynnig mannau cynnes i bobl sy’n cael trafferth gyda chost cadw’u cartrefi’n gynnes oherwydd y cynnydd sylweddol mewn costau ynni.

Mae’r mannau cynnes ar agor i unrhyw cyhyd ag y maen nhw eisiau tra bod y llyfrgelloedd ar agor.

Gall ymwelwyr gymryd mantais o’r casgliadau llyfrau, cyfrifiaduron a diwifr am ddim yn ystod yr oriau yma a chymryd rhan mewn dosbarthiadau crefft, sesiynau gemau bwrdd ac ymweliadau gan bobl yn dweud storïau. Bydd lluniaeth ar gael yn rhai o’r sesiynau yma.

Mae tîm cyflogadwyedd Cyngor Torfaen hefyd yn cynnal canolfan gynnes yn Nhŷ Panteg, yn Nhref Gruffydd, ble gall ymwelwyr hefyd dderbyn pryd poeth a diod.

Dywedodd un o’r trigolion lleol, Lyn Jones, sy’n mynd bob wythnos: “Dydw i ddim yn gallu fforddio cynnau’r gwres gartref mewn gwirionedd ar hyn o bryd, felly mae dod i gael bod yn gynnes, cwrdd â phobl newydd a chael y cymorth sydd ar gael, mae fy iechyd meddwl wedi gwella’n fawr.”

Mae’r gwasanaeth Croeso Cynnes ar agor rhwng 12pm a 4pm pob dydd Mercher ac mae hefyd yn rhoi mynediad i bobl at gyngor ariannol pellach a chefnogaeth iechyd a lles.

Dywedodd Allan Peploe, Cyfarwyddwr ac Ysgrifennydd yn Nhŷ Panteg: “Mae Croeso Cynnes i chi yn Nhŷ Panteg.  Rwy’n falch ein bod ni wedi ymuno â Chyngor Torfaen i gynnig y gwasanaeth cymorth, cyfeillgar yma i bawb yn ein cymuned.

“Mae’n amser anodd i ni i gyd, gyda chynnydd mewn costau bwyd, tanwydd ac ynni’n cael effaith anferth a phoenus ar deuluoedd ac unigolion. Mae’r gaeaf ar fin cyrraedd, felly dewch i gael rhywle cynnes a bwyd poeth ac, yn y cyfamser, arhoswch yn ddiogel a chymerwch ofal."

Mae canolfannau cynnes eraill yn cael eu darparu gan elusennau a grwpiau cymunedol ledled y fwrdeistref, ac mae manylion y rhain ar wefan Cyswllt Torfaen.

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross:  “Mae’n dda geni glywed am y cynlluniau rhagweithiol yma gan grwpiau yn y gymuned a’r cyngor.  Yn anffodus, maen nhw’n wasanaeth mawr ei angen i unrhyw un- a fydd yn cael trafferth yn y misoedd i ddod.

Maen nhw’n gynhwysol, yn groesawgar, ac yn amrywio yn y cyfleodd sydd ar gael felly peth doeth yw edrych ar wefan Cyswllt Torfaen o flaen llaw.  Os ydych chi’n cael trafferth ac angen cyngor penodol arnoch, bydd nifer o’r mannau yma’n gallu rhoi cyfarwyddyd i chi tuag at y gefnogaeth gywir os na fyddan nhw’n gallu helpu. 

Am fwy o wybodaeth am amserau agor llyfrgelloedd a’r cymorth pellach sydd ar gael o gylch y cynnydd mewn costau byw, ewch at wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2022 Nôl i’r Brig