Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Hydref 2022
Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynllun gwerth £1.77miliwn i drawsnewid Fferm Gymunedol Greenmeadow yng Nghwmbrân.
Bwriad y prosiect, sy’n cynnwys cynlluniau ar gyfer gweithgareddau antur awyr agored, man chwarae meddal a bar trwyddedig, yw trawsnewid y safle 120 o erwau yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn y rhanbarth.
Ar ddydd Mawrth, gofynnwyd i aelodau Cyngor Torfaen ystyried tri opsiwn – gwneud dim, rhoi swm cyfyngedig o fuddsoddiad cyfalaf i greu man chwarae meddal a chynyddu dewisiadau bwyd a diod, neu fuddsoddi £1.77miliwn i greu cyfadeiladau canolog dan do newydd a gwneud y mwyaf o incwm posibl yn y dyfodol.
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid y trydydd opsiwn, gan gydnabod ar yr un pryd bod hyn yn golygu y bydd y fferm ar gau am nifer o fisoedd.
Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau: "Mae’r cynigion yn feiddgar ac yn gyffrous. Mae’n rhoi cyfle gwirioneddol i ni ganiatáu i’r fferm sefyll ar ei thraed ei hun, ond nid dim ond hynny, ond hefyd dechrau buddsoddi ynddi ei hun ac, o bosibl, gwasanaethau eraill."
Disgwylir y bydd y fferm ar gau ar ôl hanner tymor tan y gwanwyn, 2023.
Trowyd Fferm Greenmeadow yn atyniad i ymwelwyr yn yr 1980au ar ôl bod yn fferm weithredol am dros 250 mlynedd.
Mae’r gartref i fferm weithredol fasnachol, yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol ac mae’n adnodd addysgol i ysgolion lleol.