Enwch y cerbyd ailgylchu

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 3 Hydref 2022

Bydd Cyngor Torfaen yn derbyn 19 o gerbydau ailgylchu newydd dros y misoedd nesaf, ac rydym ni am i blant ysgol eu henwi.

Mae’r fflyd newydd wedi ei phrynu i gymryd lle’r hen fflyd sy’n heneiddio, ac maen nhw’n rhan o gyfres o gamau i helpu’r Cyngor i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% erbyn 2024.

Mae’r fflyd newydd wedi ei phrynu i gymryd lle’r hen fflyd sy’n heneiddio, ac maen nhw’n rhan o gyfres o gamau i helpu’r Cyngor i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% erbyn 2024.

I ddathlu dyfodiad y tryciau, rydym am roi cyfle i blant ysgol gynradd enwi cerbyd.

Rydym yn chwilio am enwau sy’n hyrwyddo’r neges Lleihau, Ailgylchu ac Ailddefnyddio neu darged sero carbon net Cymru.

Bydd yr 19 disgybl sy’n ennill yn derbyn taleb Smyth gwerth £15. Bydd gwobr i’w dosbarth hefyd.

Bydd enwau’r buddugwyr yn cael eu hargraffu ar ddrysau’r cerbydau newydd, a bydd disgyblion yn cael cyfle i gael llun gyda’r cerbyd y bu iddyn nhw ei enwi.

Rhaid i blant gyflwyno’u cynigion trwy eu hysgolion cynradd a bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid. 

Gall ysgolion gynnig cymaint o weithiau ag ydyn nhw’n dymuno, ond bydd mwyafswm o ddau enw buddugol yn cael eu dewis o ysgolion unigol.

Mae’r gystadleuaeth yn agor ddydd Llun 3 Hydref a rhaid cyflwyno cynigion erbyn 4pm ddydd Gwener 28 Hydref.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Cyngor Torfaen gystadleuaeth i enwi cerbydau gwastraff trydan cyntaf y fwrdeistref.

Enwyd BERT (Best Electric Refuse Truck) gan ddisgybl blwyddyn 2, Ruby Cording, o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Ponthir, a TREVOR (Torfaen Refuse Electric Vehicle On Route) gan ddisgybl yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Henllys.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Cawson ni dros 100 o gynigion ar gyfer y gystadleuaeth i enwi’r ddau gerbyd trydan ac rydym yn gobeithio am lawer mwy y tro yma.

“Mae mwy o gyfle i fod yn enillydd y tro yma, felly ewch amdani.”

Dywedodd Matt Patandan, Rheolwr Gwerthiant y DU, Romaquip: “Rydym yn hynod o falch o fod yn cyflenwi fflyd newydd o gerbydau ailgylchu Kerb-Sort i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r awdurdod dros y 10 mlynedd nesaf.

“Rydym hefyd yn hynod o falch o fod yn ymwneud â’r gystadleuaeth i ysgolion lleol ac rydym yn edrych ymlaen at weld y fflyd newydd a’u henwau ar strydoedd Torfaen.

“Mae’r seremoni enwi yn syniad gwych ac, wrth gynnwys yr ysgolion lleol i gyd, mae’n siŵr o fod yn boblogaidd iawn gan ei bod yn ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o ailgylchwyr. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â’r bobl ifanc i gyd yn ystod y misoedd sydd i ddod.”

Dysgwch am ailgylchu a gwastraff yn Nhorfaen.

Dysgwch am sut mae’r Cyngor yn ymateb i’n datganiad argyfwng natur a newid yn yr hinsawdd  

Diwygiwyd Diwethaf: 03/10/2022 Nôl i’r Brig