Bachwch fag o deganau am £1

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Tachwedd 2022

Os ydych chi'n poeni am arian y Nadolig hwn, ewch i siop ailddefnyddio The Steelhouse i fachu bargen.

Bydd The Steelhouse, sydd nesaf at Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd, yn cynnig bag o deganau ail law i ymwelwyr am £1 yn unig, ddydd Sadwrn 3 a 10 Rhagfyr. Mae llyfrau plant a DVDs hefyd wedi'u cynnwys yn y cynnig.

Gall unrhyw un sydd â theganau, llyfrau, gemau neu DVDs i'w cyfrannu yn y cyfnod cyn y Nadolig, fynd â nhw i'r siop, sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 9.30am a 4.30pm.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd: “Dyma gynnig rhagorol i unrhyw un sydd â phlant, neu sy’n gofalu am blant.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod plant yn newid eu meddyliau yn aml ynglŷn â theganau, felly yn lle talu ffortiwn am rai newydd, beth am brynu rhai ail law. Byddwch nid yn unig yn arbed arian ond yn lleihau gwastraff ac yn helpu gyda’r achos newid hinsawdd. ”

Dywedodd Alun Harries, rheolwr elusennol y Grŵp Wastesavers sy’n rhedeg The Steelhouse: “Mae ein siopau dan eu sang â theganau ar ôl y Nadolig, felly eleni rydyn ni am i bobl fynd ati’n gynnar i waredu ar eu heitemau, fel y gall y teganau hynny ddod o hyd i’w ffordd i Hosan Nadolig.”

“Nawr yw’r amser i wneud lle i’r anrhegion gan Siôn Corn.”

Mae Wastesavers yn gofyn i bobl ddod â’u bagiau maint “bag am oes” (nid bagiau du) ac maent yn annog masnachwyr a’r rheini sy’n masnachu ar e-bay i beidio â chymryd mantais o’r gwerthiant, am mai’r nod yw dod ag ychydig o lawenydd y Nadolig i blant lleol a fyddai o bosib yn colli allan.

Dysgwch mwy am  The Steelhouse

Mynnwch olwg ar dudalennau gwe Costau Byw y Cyngor i gael gwybodaeth ar sut i leihau costau yn y cartref.

Mae amser o hyd i gyfrannu anrhegion newydd neu dalebau i apêl Siôn Corn Cyngor Torfaen. I roi taleb anrheg neu rodd, ffoniwch 01633 647539, dydd Llun i ddydd Iau, rhwng 9.00am a 4.00pm. Dysgwch mwy am Apêl Siôn Corn Torfaen yma.

Dywedwch eich barn wrthym am gynllun y Cyngor i ddiogelu’r amgylchedd lleol a gwella cynaliadwyedd yma: https://dweudeichdweud.torfaen.gov.uk/arolwg-trigolion-sirol-2022

Diwygiwyd Diwethaf: 25/11/2022 Nôl i’r Brig