Cwpan y Byd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022
Diversity football festival

Cafodd mwy na 180 o blant flas ar ysbryd Cwpan y Byd yr wythnos yma drwy gymryd rhan mewn gŵyl bêl droed wedi ei threfnu gan Gyngor Torfaen.

Cymerodd bedair ysgol ar bymtheg ran yn y digwyddiad yn stadiwm Cwmbrân a gofynnwyd iddynt gynrychioli un o’r gwledydd sy’n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd, sy’n cychwyn ddydd Sul.

Cafodd yr ŵyl, sy’n dathlu amrywiaeth mewn chwaraeon, ei ffilmio ar gyfer rhaglen FC Cymru, sydd ar gael ar wasanaeth ffrydio  newydd FC Cymru, Red Wall+.

Mae FC Cymru yn dangos sut mae cymunedau ledled Cymru yn defnyddio pêl droed i hybu diwylliant Cymru.

Gwisgodd y disgyblion o flynyddoedd pedwar, pump a chwech liwiau eu gwledydd dethol a chael y dasg o ddylunio ffeil llawn ffeithiau a phosteri.

Roedd hefyd yn ddiwrnod o bêl droed anghystadleuol, gyda’r holl dimau yn cael eu rhannu’n ddau grŵp ar gyfer cyfres o gemau.

Cymerodd y plant ran mewn gweithdy holi ac ateb hefyd wedi ei drefnu gan No Boundaries – cwmni sy’n arbenigo mewn amrywiaeth ac ymwybyddiaeth o gynhwysiant, gan ddysgu am effeithiau negyddol hiliaeth gan y sawl sydd wedi profi hynny.

Meddai Emily, 9 oed, o Ysgol Gynradd Maendy, “Rwyf wedi dysgu llawer heddiw! Rwyf wedi mwynhau chwarae pêl droed ac mae’r sgwrs ar hiliaeth wedi gwneud i mi fod yn fwy ymwybodol i sut ddylem drin pob math o bobl.”

Dywedodd Miles, 10 oed, o Ysgol Dreftadaeth Blaenafon, “Rwyf wrth fy modd yn chwarae pêl droed gyda fy ffrindiau. Roedd yn wych cael y cyfle i chwarae yn erbyn cymaint o ysgolion gwahanol. Cafodd ein hysgol ni ei dewis i gynrychioli’r Iseldiroedd yn yr ŵyl a chawsom hwyl yn gwneud ein ffeil o ffeithiau.”

Cafodd y plant ffrwythau a byrbrydau drwy’r dydd a chael bathodyn Cymdeithas Bêl Droed Cymru am eu cyfraniad.

Cefnogwyd y digwyddiad gan y rapiwr o Gaerdydd Mace the Great a helpodd drwy fod yn reffarî yn rhai o’r gemau, hefyd Heddlu Gwent, Show Racism the Red Card, FA Cymru, Game On a chlybiau pêl droed lleol.

Meddai trefnwr y digwyddiad a Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Torfaen, Jacob Guy, “Mae’r cyfle i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant drwy chwaraeon yn beth grymus.

“Roedd gallu gweithio gyda’n hysgolion cynradd i gynnig gŵyl cwpan y byd yn wych,, nid yn unig i chwarae pêl droed ond hefyd i addysgu’r plant am effeithiau hiliaeth a phwysigrwydd cynhwysiant.

“Mi wnaeth pob ysgol gynhyrchu gwaith celfyddyd gwych a oedd yn dathlu amrywiaeth ar draws y byd”.

Mae gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn cael ei chwarae nos Lun yn erbyn Unol Daleithiau America.

I gael gwybod mwy am weithgareddau chwaraeon a chlybiau sy’n chwarae ledled y fwrdeistref, ffoniwch 01633 628936 neu ebostiwch Jacob.guy@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2022 Nôl i’r Brig