Barod am y gaeaf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022

Mae timau cynnal a chadw ffyrdd yn archwilio cwteri a draeniau fel rhan o gynllun y Cyngor i fod yn barod am y gaeaf.

Ynghyd â chlirio cwteri, mae biniau halen yn cael eu gwirio a’u hail-lenwi ar gyfer y gaeaf.

Mae gan y Cyngor stoc o 5,600 tunnell o halen, fflyd o 10 o gerbydau graeanu a gweithlu wrth gefn sy’n barod i ymateb i amodau newidiol 24 awr y dydd drwy gydol y gaeaf. Mae gan y gwasanaeth staff o 30 o yrwyr a swyddogion craidd sydd ar alwad wythnos ar y tro, yn cael eu cefnogi gan ein Huned Drafnidiaeth sy’n cynnal a chadw’r cerbydau graeanu.

Ceir rhagolygon tywydd dair gwaith y dydd ac mae tymheredd y ffyrdd yn cael eu monitro gan gyfres o orsafoedd tywydd ledled y fwrdeistref. Mae hyn yn caniatáu i’r cyngor raeanu ffyrdd dim ond pan fydd angen a phan fydd fwyaf effeithiol gwneud hynny.

Mae holl ffyrdd A a B, prif lwybrau bysus, prif lwybrau dosbarthu a llwybrau sy’n agos at ysgolion, ardaloedd diwydiannol a manwerthu yn cael eu blaenoriaethu a byddant yn cael eu trin rhag ofn pan fydd y rhagolygon yn awgrymu, gydag ardaloedd eraill fel ffyrdd ochr a meysydd parcio ym meddiant y cyngor yn cael eu graeanu mewn tywydd difrifol pan fydd adnoddau yn caniatáu.

Mae 795 o finiau halen wedi eu lleoli ledled y fwrdeistref i drigolion eu defnyddio ar lwybrau troed a ffyrdd ochr sydd wedi eu mabwysiadu yn eu hardaloedd lleol. Mae’r cyngor yn atgoffa trigolion i ddefnyddio halen yn gyfrifol – haen denau, wedi ei lledaenu yn wastad ar wynebau sydd wedi eu clirio o unrhyw eira yn gyntaf yw’r cyfan sydd ei angen fel rheol i fod yn effeithiol.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Hoffwn annog trigolion i gadw llygad ar unrhyw gwteri ffyrdd ac adrodd am unrhyw achosion o flocio cyn gynted ag y bo modd.

“Dyma’r amser o’r flwyddyn pan fyddwn yn cael mwy o law a thywydd oer, felly rydym eisiau gwneud yn siŵr bod trigolion yn barod.

“Pan ddaw’n fater o dywydd oer, rydym ar hyn o bryd yn graeanu rhyw 52 y cant o’n rhwydwaith ffyrdd bob tro y mae rhew neu eira yn debygol o ffurfio ar wyneb y ffordd, Fodd bynnag, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, o ystyried nad oes darogan y tywydd yn union, nid yw’n bosibl cadw ffyrdd yn gwbl rydd rhag rhew ac eira bob amser.

“Hoffem felly atgoffa gyrwyr i gymryd gofal ychwanegol dros fisoedd y gaeaf, gostwng eu cyflymder a chynyddu’r pellter rhyngddyn nhw a’r cerbyd o’u blaenau.”

Gall trigolion ddefnyddio system fapio’r cyngor i weld os yw eu ffordd ar lwybr graeanu, ac i ganfod lleoliad eu in halen agosaf.

Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

I adrodd am fin halen wedi ei ddifrodi neu sydd angen ei lenwi, ffoniwch 01495 762200. Dim ond ar gyfer ffyrdd a llwybrau wedi eu mabwysiadu y mae biniau halen yn cael eu darparu.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/04/2023 Nôl i’r Brig