Ymgyrch newydd i gynyddu presenoldeb mewn ysgolion

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10 Tachwedd 2022
#NotInMissOut tile4

Mae ymgyrch wedi ei lansio er mwyn cynyddu nifer y plant sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd yn Nhorfaen yn sgil pandemig coronafirws. 

Rhwng Hydref 2019 a Hydref 2022, gostyngodd presenoldeb mewn ysgolion cynradd dri y cant ar gyfartaledd yn y fwrdeistref, o 95 i 92 y cant. Gostyngodd presenoldeb mewn ysgolion uwchradd chwech y cant ar gyfartaledd, o 94 i 88 y cant.

Mae ysgolion nawr yn cefnogi ymgyrch newydd #DdimMewnColliMas gan wasanaeth addysg Cyngor Torfaen, sy'n anelu i ddathlu manteision amrywiol mynd i'r ysgol bob dydd, gan gynnwys addysg wych, gweithgareddau difyr iawn a threulio amser gyda ffrindiau.

Mae disgyblion a staff o Ysgol Gynradd Llanyrafon, Ysgol Bryn Onnen, Ysgol Abersychan ac Ysgol Gymraeg Gwynllyw ymhlith y cyntaf i gael sylw mewn cyfres o fideos cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo rhai o'r rhesymau pam mae eu disgyblion - a'r staff - wrth eu bodd yn mynd i'r ysgol.

Gallwch wylio’r fideos ar dudalen YouTube y Cyngor.

Bydd Cyngor Torfaen yn gweithio gydag ysgolion eraill i hyrwyddo eu gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol cyffrous yn ystod y misoedd nesaf. Cadwch lygad ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol eich ysgol leol, neu sianeli Facebook, Instagram a Twitter Cyngor Torfaen i ddilyn yr ymgyrch.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Addysg: "Roedd y pandemig yn gyfnod anodd i bawb, ond diolch byth ei fod drosodd a bod yr ysgolion wedi dychwelyd i'r arfer.

"Mae plant sy'n cymryd amser i ffwrdd yn rheolaidd - neu sy'n mynd ar wyliau yn ystod y tymor - yn wynebu'r perygl o syrthio tu ôl yn y gwersi. Maen nhw hefyd yn colli allan ar y cyfle i elwa o'r amrywiaeth helaeth o adnoddau a phrofiadau sydd gan ysgolion i'w cynnig.

Yn eu plith mae "dysgu i wneud gwahanol chwaraeon neu chwarae offerynnau cerdd; defnyddio technoleg flaenllaw; perfformio ar lwyfan; ymgymryd â rolau o fewn yr ysgol a all helpu gyda cheisiadau i'r brifysgol neu swyddi; cyngor ar yrfaoedd, neu dreulio amser gyda ffrindiau.

"Mae cymorth ar gael i blant a theuluoedd sy'n cael trafferth mynychu'r ysgol yn rheolaidd, ond gellir cymryd camau gweithredu os nad yw disgyblion yn mynychu'r ysgol."

Y targed o ran cyfraddau presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn Nhorfaen yw 95 y cant.

Bydd cyfradd presenoldeb y disgyblion hynny sy'n colli hanner diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd yn syrthio i 90 y cant. Bydd cyfradd presenoldeb y rheini sy'n colli un diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd yn syrthio i 80 y cant.

Gall caniatáu i blant gymryd amser i ffwrdd am resymau heblaw salwch, gyfrif fel absenoldebau heb ganiatâd, a gall arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig.

I roi gwybod bod eich plentyn yn sâl, neu i drefnu absenoldeb awdurdodedig, dylai rhieni gysylltu ag ysgol eu plentyn cyn gynted â phosibl.

Dylai rhieni sy'n ei chael hi'n anodd cael eu plant i'r ysgol, neu sy'n credu y gallai fod rheswm pam nad ydyn nhw eisiau mynd i'r ysgol, siarad ag athro dosbarth eu plentyn, Pennaeth Blwyddyn neu'r Prifathro, i gael cymorth a chefnogaeth.

Mae cyngor a chymorth ar gael hefyd gan Swyddog Lles Addysg yr ysgol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan

Diwygiwyd Diwethaf: 10/11/2022 Nôl i’r Brig