Datgelu cynlluniau gwerth £1.7m ar gyfer y fferm

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Tachwedd 2022
greenmeadow-farm-plans-photo_original (1)

Mae manylion prosiect gwerth £1.7 miliwn o bunnoedd i drawsnewid Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi'u datgelu. 

Roedd y rheini a ymwelodd â'r fferm yng Nghwmbrân yr wythnos hon, ymhlith y cyntaf i weld y cynlluniau manwl, oedd yn cael eu harddangos fel rhan o ddathliadau arbennig Calan Gaeaf dros y penwythnos.

Maent yn cynnwys ardal chwarae awyr agored newydd, gwifren sip, ardal chwarae meddal dan do a bar trwyddedig.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle 120 erw yr wythnos nesaf a bydd y fferm ar gau o ddydd Llun 7 Tachwedd. Y gobaith yw y bydd y fferm ar ei newydd wedd yn ailagor yn y gwanwyn.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Plant, Teuluoedd a Chymunedau: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o drigolion yn mwynhau ymweld â'r fferm a byddwn yn ei methu tra ei bod ar gau. Yr wythnos hon yn unig, fe wnaeth dros 2,000 o bobl ymweld â'r fferm i gymryd rhan mewn digwyddiadau Calan Gaeaf a hanner tymor.

"Ond mae'r cynlluniau hyn yn helpu i ddod â'r prosiect trawiadol a chyffrous hwn yn fyw, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb pan fydd yn ailagor y flwyddyn nesaf."    

Gallwch ddilyn cynnydd y datblygiad a chadw mewn cysylltiad gyda'r tîm a'r anifeiliaid drwy ddilyn Fferm Gymunedol Greenmeadow a Chyngor Torfaen ar Facebook.

Yn ogystal â llu o weithgareddau Calan Gaeaf a hanner tymor, bydd y fferm hefyd yn cynnal Marchnad Nadolig gyda Bwyd a Chrefftau Lleol,  ddydd Sul yma, 6 Tachwedd, gyda'r gwesteion arbennig Elsa ac Anna.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/11/2022 Nôl i’r Brig