Cyn-berchennog tafarn yn talu'r pris am safle budr

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 3 Tachwedd 2022

Mae cyn-berchennog tafarn Castell-y-Bwch yn Henllys, wedi cael ei erlyn am droseddau hylendid bwyd sy'n dyddio o 2021.

Ymddangosodd Deri Rogers gerbron Llys Ynadon Cwmbrân yr wythnos diwethaf gan bledio'n euog i bob un o'r chwe chyhuddiad yn ei erbyn.

Roedd y cyhuddiadau’n ymwneud â:

  • gwerthu caws Roquefort oedd 39 diwrnod y tu hwnt i'w ddyddiad defnyddio
  • bwyd oedd yn agored i berygl o groes-heintio
  • methu gweithredu cynllun rheoli perygl
  • methu hyfforddi a goruchwylio'r rheini sy'n trin bwyd
  • arddangos sticeri hylendid bwyd annilys
  • safle budr.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: "Yn dilyn cwyn gan gwsmer cynhaliwyd archwiliad cychwynnol gan adran iechyd yr amgylchedd ym mis Medi 2021. Aeth y tîm ati i gynnal ail archwiliad yn ystod mis Hydref i asesu rhai gwelliannau mawr eu hangen, a gweld a oedd yna gydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Canfu'r ymweliad dilynol hwn nifer o risgiau annerbyniol i iechyd y cyhoedd a oedd, yn anffodus, yn galw am gamau gorfodi.  Mae ein tîm iechyd yr amgylchedd yn chwarae rhan hanfodol o ran diogelu'r cyhoedd trwy sicrhau, pan fyddwn yn dewis bwyta allan, y gallwn wneud hynny'n ddiogel mewn adeiladau nad ydynt yn peri risg i'n hiechyd."

Fe wnaeth yr ynadon roi un ddirwy o £480, wedi ei gostwng i £320 am bledio'n euog yn gynnar, ac ystyriwyd mai gwerthu caws 39 diwrnod y tu hwnt i'r dyddiad defnyddio oedd y drosedd fwyaf difrifol.

Dyfarnwyd costau llawn i'r Cyngor, sef £1597.86 ac ychwanegwyd £34 o ordal i'r dioddefwyr. Y cyfanswm sy'n daladwy yw £1951.86.

Mae busnes newydd wedi agor ar y safle gan berchnogion hollol newydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/11/2022 Nôl i’r Brig