Busnes argraffu 3D yn cynyddu

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 31 Mai 2022

Mae busnes argraffu 3D wedi cynyddu ei faint, diolch i gefnogaeth gan Gyngor Torfaen a Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.

Dechreuodd Lewis Woolfall Woolfall's 3DP yn Ionawr 2020 a symudodd i’r farchnad yn Hydref 2020. 

Cafodd grant cychwyn Covid-19 i gefnogi ei fusnes, sydd wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. 

Dywedodd Lewis, 22, o Bont-y-pŵl: "Roedd gan fy mam-gu a thad-cu stondin ffrwythau a llysiau RM and RD Rowlands ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl am bron i 20 mlynedd ac rwy’n cofio ymweld â’r stondin pan oeddwn i’n iau a gweld hwrli-bwrli bywyd y farchnad.

"Felly, roedd yn lle amlwg i fi ddechrau busnes. Ers agor yn y farchnad, mae’ busnes wedi tyfu ac wedi tyfu pedwarplyg mewn maint ac allgynnyrch."

Mae Lewis, sy’n arbenigo mewn argraffu cynnyrch 3D fel darnau sbâr, pethau casgladwy, modelau ac eitemau tymhorol, nawr yn bwriadu symud i eiddo mwy ym Mrynmawr.

"Rydw i wedi mwynhau fy amser yn y farchnad yn fawr ac wedi mwynhau cwrdd â chwsmeriaid newydd," ychwanegodd. "Buaswn i’n annog unrhyw ddarpar fasnachwyr i ystyried Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, waeth pa mor wallgof yw eich syniad.

"Dyma’r ddeorfa berffaith i fusnesau cychwynnol a, gyda’r gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael gan y cyngor yn y farchnad, does dim lle gwell i ddechrau mentro.”

Gallwch rentu stondin yn y farchnad am gyn lleied â £18 yr wythnos.  I wybod mwy, ewch i wefan Cyngor Torfaen, neu cysylltwch â rheolwr y farchnad, Shane Kennedy trwy pontypoolindoormarket@torfaen.gov.uk neu 01495 742757. 

Mae Cyngor Torfaen yn ystyried cynlluniau ar hyn o bryd i adfywio canol tref Pont-y-pŵl.  Am fwy o wybodaeth, ewch at ein gwefan.  I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch at ein safle ymgysylltiad cymunedol

 

Diwygiwyd Diwethaf: 31/05/2022 Nôl i’r Brig