Penodiadau gwleidyddol allweddol yn y Cyfarfod Blynyddol

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 24 Mai 2022
Councillor Anthony Hunt

Yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cyngor Torfaen ddydd Mawrth 24ain o Fai, cafodd yr holl benodiadau gwleidyddol allweddol i gabinet y cyngor, pwyllgorau a chyrff allanol eu cadarnhau am y flwyddyn i ddod. 

Gweithred gyntaf y cyfarfod oedd penodi Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol newydd ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2022/23, i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor. 

Etholwyd y Cyng. Rose Seabourne eto i fod yn Aelod Llywyddol y Cyngor ac etholwyd y Cyng. Stuart Ashley yn Ddirprwy Aelod Llywyddol. 

Ar ôl enwebiadau ar gyfer swydd Arweinydd y Cyngor, cafodd y Cyng. Anthony Hunt fwyafrif y pleidleisiau, a chafodd ei ailethol.

Ail-etholwyd y Cyng. Richard Clark yn Ddirprwy Arweinydd y cyngor a bydd hefyd yn dal y portffolio Addysg. 

Mae aelodau’r Cabinet wedi eu penodi eto i’r portffolios canlynol am y flwyddyn nesaf:

  • Yr Aelod Gweithredol dros Addysg – Y Cyng. Richard Clark
  • Yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau – Y Cyng. Fiona Cross
  • Yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd – Y Cyng. Mandy Owen
  • Yr Aelod Gweithredol dros Adnoddau – Y Cyng. Sue Morgan
  • Yr Aelod Gweithredol dros Lywodraeth Gorfforaethol a Pherfformiad – Y Cyng. Peter Jones
  • Yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai - Y Cyng. David Daniels
  • Yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio - Y Cyng. Joanne Gauden

Etholwyd Cadeiryddion Pwyllgorau fel a ganlyn:

  • Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach – Y Cyng. Janet Jones
  • Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Mwy Llewyrchus – Y Cyng. David Thomas
  • Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach – Y Cyng. Steven Evans
  • Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg – Y Cyng. Rose Seabourne 
  • Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau a Materion Trawsbynciol- Y Cyng. Stuart Ashley
  • Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio - Y Cyng. Norma Parrish
  • Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu - Y Cyng. Giles Davies
  • Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau – Y Cyng. Nathan Yeowell
  • Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Y Cyng. Ron Burnett
  • Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio – i’w (h)ethol gan y pwyllgor

Wrth dderbyn ei benodiad fel Arweinydd Cyngor Torfaen, diolchodd Anthony Hunt i’r Aelod Llywyddol, staff y cyngor a gwirfoddolwyr cymunedol am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf a chroesawodd y cynghorwyr newydd a’r cynghorwyr a oedd yn dychwelyd. Talodd deyrnged hefyd i aelodau oedd yn ymddeol a chofio am Nye James a fu farw yn ddiweddar, cynghorydd hirsefydlog dros Ward Pontnewydd a chyn Faer Torfaen.

Wrth annerch siambr y cyngor, ychwanegodd y Cynghorydd Hunt: “Fy nod yw ad-dalu’r ymddiriedaeth a roddwyd ynof gan fy nghyd-aelodau a’m hetholwyr fel Arweinydd y cyngor hwn.

“Un o’n heriau niferus fydd mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw sy’n effeithio ar gymaint o drigolion sy’n cael trafferth talu am bethau sylfaenol fel bwyd a gwres. Yn ystod y tymor hwn rhaid inni hefyd fynd i’r afael â’r angen inni i gyd fyw’n fwy cynaliadwy, gwella’r model mewn gofal cymdeithasol, codi cyrhaeddiad addysgol a dymunaf weld poblogaeth iachach a mwy egnïol.

“Dyma rai o’r materion y bydd angen i ni fynd i’r afael â nhw ar y cyd yn y siambr hon ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau o bob perswâd gwleidyddol. Ni fyddant yn cael eu datrys trwy weiddi na stampio traed, ond trwy gydweithio a bod yn arloesol.”

Mae'r 90 sedd ar wahanol bwyllgorau ac is-bwyllgorau bellach yn cael eu dyrannu ar sail cydbwysedd gwleidyddol. Mae’r grŵp llafur, sef y mwyafrif, yn cael 66 o seddi gyda 16 sedd yn cael eu dyrannu i’r grŵp Annibynnol ac 8 sedd yn cael eu dyrannu i grŵp Annibynnol Torfaen.

Mae'r Cynghorydd Alan Slade wedi'i benodi'n Arweinydd y grŵp Annibynnol (yr wrthblaid fwyaf), a enwebodd y Cynghorydd David Thomas i Gadeirydd y Pwyllgor T a Ch Cymunedau Ffyniannus.

Mae’r Cynghorydd Ron Burnett wedi’i benodi’n Arweinydd grŵp Annibynnol Torfaen (yr ail wrthblaid fwyaf), ac enwebodd y Cynghorydd Janet Jones i Gadeirydd y Pwyllgor T a Ch Cymunedau Iachach.

Gwnaeth y cyngor hefyd enwebiadau i gyrff allanol gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Tai Cymunedol Bron Afon a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/05/2022 Nôl i’r Brig