Gwanwyn glân yn taclo mannau â sbwriel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Mai 2022

Pecynnau creision, papurau losin, mainc parc a hŵfer!  Rhai o’r eitemau sbwriel a gafodd eu codi yn ystod digwyddiadau Gwanwyn Glân Torfaen.  

Daeth 50 o wirfoddolwyr i daclo 9 o fannau llawn sbwriel o Varteg Road at Lynnoedd y Garn, ble casglwyd dros 230 o sachau o sbwriel.

Dywedodd un gwirfoddolwr: “Pe ba pob un yn codi un darn o sbwriel ac yn mynd ag e gartref, byddai ardaloedd yn llawer mwy glân.  Dyw e ddim yn anodd”.

Dywedodd Rosie Seabourne, Cydlynydd Gwirfoddolwyr y Gwasanaethau Cymdogaethau: “Rwy’n mwynhau gweithio gyda gwirfoddolwyr yn fawr, mae ganddyn nhw gymaint o frwdfrydedd, and maen nhw’n poeni fawr am yr ardal y maen nhw’n byw ynddi.

“Mae gwneud Torfaen y lle glanach a gwyrddach i fyw yn flaenoriaeth gorfforaethol, a bydd y cyngor yn parhau i weithio’n galed i wneud hyn. Serch hynny, byddem ni ddim yn gallu gwneud cymaint ar ein pennau ein hunain.

“Hoffai’r cyngor ddiolch i bawb a wirfoddolodd gyda ni ar gyfer Gwanwyn Glân, a hoffem ddiolch yn arbennig i’r rheiny sy’n codi sbwriel gyda ni trwy’r flwyddyn.  Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth yn wirioneddol”.

Digwyddodd codi sbwriel Gwanwyn Glân Torfaen yn: Sandybrook, Chapel Lane, Rosemary Lane, Llynnoedd y Garn, Gorllewin Mynwy, Llyn Cychod Cwmbrân, Parc Pont-y-pŵl, Varteg Road ac wrth siopau Fairwater. Digwyddodd dau ddigwyddiad arall gyda theuluoedd yn Llanfrechfa a Llantarnam, gyda grwpiau o Sgowtiaid Tref Gruffydd ac Ysgol Gatholig Dewi Sant yn casglu hefyd.

Mae Gwanwyn Glân Torfaen yn digwydd pob blwyddyn, ac mae’n gyfle i drigolion, busnesau, ysgolion ac asiantaethau eraill i godi sbwriel i helpu i lanhau’r fwrdeistref a chreu Parthau Di-sbwriel.

I ddysgu mwy am gyfleoedd i wirfoddoli’n amgylcheddol gyda’r cyngor, cysylltwch â rosie.seaborne@torfaen.gov.uk , ymunwch â’n grŵp ar Facebook, ymwelwch â Chyswllt Torfaen neu ffoniwch 01495 762200

 

Diwygiwyd Diwethaf: 13/05/2022 Nôl i’r Brig