Chwarae yn y parc

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Mai 2022
1

Mae sesiynau ‘Chwarae yn y parc’ Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi dychwelyd y gwanwyn yma, gan ddod â theuluoedd ynghyd i chwarae yn yr awyr agored.

Mae’r sesiynau, sy’n cael eu cynnal gan weithwyr chwarae hyfforddedig a gwirfoddolwyr, yn cynnig cyfle i blant, rheini a neiniau a theidiau, gymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau a gweithgareddau hwyliog ar draws y fwrdeistref.

Mae sesiynau’n agored i bawb, sy’n golygu y gall teuluoedd alw heibio, ar yr adeg iawn, i gymryd rhan.  Mae pob sesiwn yn wythnosol o 3.30pm – 5.00pm ac yn digwydd yn y mannau canlynol:

  • Dydd Llun – Gerddi Blodau Cae Derw, Llantarnam Road, Cwmbrân
  • Dydd Mercher – Parc Pentwyn, Pentwyn Road
  • Dydd Gwener – Parc Glansychan – Abersychan

Mae gweithgareddau’n cynnwys gemau parasiwt, timau, celf a chrefft, llwybrau natur a chwaraeon.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen, Julian Davenne:  “Mewn ymgynghoriad diweddar gyda phlant yn Nhorfaen, fel rhan o Asesiad Digonolrwydd Chwarae’r awdurdod lleol, pwysleisiwyd mae parciau lleol a mannau chwarae lleol yw hoff fannau plant i chwarae.

Mae Chwarae yn y Parc yn gyfle gwych i blant a theuluoedd fynd i’r awyr agored a chwarae yn rhai o’n parciau anhygoel sydd ar gael yma yn Nhorfaen. Nid yn unig gall hyn wella lles, ond efallai gall hefyd helpu gwella bywyd teuluol gartref trwy gynnig lle diogel i dreulio amser fel teulu.”

Bydd hyd yn oed mwy o sesiynau ‘Chwarae yn y parc’ yn y fwrdeistref dros yr haf, mewn parciau, mannau chwarae a mannau agored.

Gallwch ddilyn Chwarae Torfaen ar Facebook a chael y diweddaraf am y ddarpariaeth chwarae dros yr haf.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/05/2022 Nôl i’r Brig