Mae Digwyddiad Mawr Cwmbrân yn ôl!

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Mai 2022
Poster

Mae Cyngor Cymuned Cwmbrân wedi cyhoeddi dychwelyd Digwyddiad Mawr Cwmbrân y gwanwyn yma.

Mae disgwyl i dros 7,000 o drigolion fynychu’r Digwyddiad Mawr ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin 2022 wrth Lyn Cychod Cwmbrân, ar ôl dwy flynedd o ohirio oherwydd Covid sydd wedi golygu bod y digwyddiad wedi symud ar-lein.

Gan ddechrau am 12 hanner dydd, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth o reidiau ffair, teganau gwynt, cerddoriaeth fyw, stondinau bwyd a chrefft a sioe gŵn, a llawer mwy!

Bydd celf a chrefft, gemau mewn grŵp a sgiliau syrcas i gyd yn cael eu cynnig am ddim gan Chwarae Torfaen, tra bydd Datblygiad Chwaraeon Torfaen yn dod â’u maes chwarae chwyddadwy i glybiau chwaraeon lleol gael cymryd rhan mewn pêl-rwyd a rygbi.

Dywedodd un o Gynghorwyr Cymuned Cwmbrân, Anthony Bird: “Mae’n wych gweld y Digwyddiad Mawr yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd o ohirio, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau’r parti a chynnig sioe wych i bawb yn y dref fel diolch am yr holl waith caled a’r aberth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’n wych gweld cymaint o fudiadau a phobl o bob man yn cymryd rhan ac yn trefnu arlwy mor wych o gerddoriaeth, gemau, chwaraeon a gweithgareddau i bawb gael cymryd rhan ynddyn nhw.  Mae'n dyst i wydnwch ein cymuned ac rydym ni’n cyfrif dyddiau hyd nes bydd yr hwyl yn dechrau.”

Trefnir Digwyddiad Mawr Cwmbrân wedi ei drefnu gan Gyngor Cymuned Cwmbrân ac fe’i cefnogir gan bartneriaid amrywiol, gan gynnwys Cyngor Torfaen a Chyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon.

Mae manylion pellach y Digwyddiad Mawr ar gael yn www.cwmbran.gov.uk/cwmbran-big-event-11-june-2022
Diwygiwyd Diwethaf: 13/05/2022 Nôl i’r Brig