Jiwbilî Platinwm y Frenhines

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Mawrth 2022

Y mis diwethaf, daeth Ei Mawrhydi y Frenhines y gyntaf ym Mhrydain i ddathlu Jiwbilî Platinwm, yn nodi 70 mlynedd o wasanaeth i bobl y Deyrnas Unedig, y Teyrnasoedd a’r Gymanwlad.

I ddathlu’r pen-blwydd digynsail hwn, bydd digwyddiadau a mentrau yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, gan orffen gyda phenwythnos gŵyl banc pedwar diwrnod yn y DU o ddydd Iau 2 i ddydd Sul 5 Mehefin.

Bydd yr ŵyl banc yn rhoi cyfle i gymunedau a phobl ledled y Deyrnas Unedig ddod at ei gilydd i ddatblygu’r garreg filltir hanesyddol yma.

Mae Torfaen yn paratoi i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines gydag ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau a fydd o fudd i’r ddinas gyfan.

Partis Stryd

Bydd ceisiadau i gau ffyrdd yn cael eu hystyried o safbwynt diogelwch, addasrwydd y ffordd a ffyrdd eraill sy’n cael eu cau yn yr ardal.

Os nad yw parti stryd neu gau ffordd yn addas yn eich ardal chi, mae yna syniadau eraill ar gyfer sut gallwch ddathlu’r achlysur yn eich cymuned.

Darllenwch ein canllaw ar gyfer partis stryd / digwyddiadau, ceisiadau cau ffordd a thrwyddedau. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cychwynnol i gau ffyrdd yw dydd Mawrth 3 Mai.

Canopi Gwyrdd y Frenhines

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw i blannu coed sy’n gwahodd pobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ‘blannu coeden ar gyfer y Jiwbilî’.

Drwy gydol mis Mawrth, mae’r cyngor, gyda help Dug a Duges Caergrawnt, wedi plannu tair coeden yn y fwrdeistref.

Plannwyd coed ffawydd a gosodwyd placiau ym Mharc Pont-y-pŵl ac yn y Llyn Cychod yng Nghwmbrân.

Hefyd, gosodwyd plac ger y goeden a blannwyd gan Ddug a Duges Caergrawnt yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd ym Mlaenafon.

Coelcerth Jiwbilî y Frenhines

Mae Coelcerth y Jiwbilî  yn un o ddigwyddiadau swyddogol y Jiwbilî Platinwm. Bydd miloedd o goelcerthi yn cael eu cynnau gan gymunedau, elusennau a grwpiau ledled y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU.

Ar nos Iau 2 Mehefin, bydd coelcerthi Torfaen yn cael eu goleuo am 9pm o dop i waelod y fwrdeistref. Caiff y cyhoedd eu gwadd i fynychu i gydnabod gwasanaeth hir ac anhunanol y Frenhines. 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023 Nôl i’r Brig