Ras 10k Mic Morris Torfaen yn dychwelyd!

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Mawrth 2022
mic morris 10k

Ar ôl siom y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ymddiriedolaeth Mic Morris wrth eu bodd o fedru croesawu rhedwyr yn ôl i Flaenafon i ddechrau ras 10k Torfaen.

Yn y 10fed yn o’r fath, mae disgwyl i dros 1,000 o redwyr gymryd rhan yn y ras boblogaidd yma ar ddydd Sul 10 Gorffennaf.

Fel blynyddoedd cynt, bydd rhedwyr yn ymgynnull wrth y llinell gychwyn ar Cwmavon Road ym Mlaenafon am 8:30am, gyda’r ras yn dechrau am 9am.

Bydd y ffordd ar gau yn gyfan gwbl o Cwmavon Road, Blaenafon i Barc Pont-y-pŵl rhwng 8am a 11:30am.

Mae ras 10k Mic Morris yn addas i redwyr o bob math a’r terfyn oedran ieuengaf i gymryd rhan yw 15 oed.  Bydd rhedwyr yn cael eu hamseru gan sglodyn ac yn derbyn bag i ddynodi eu bod wedi gorffen, yn cynnwys medal, crys T a man bethau eraill.  

Gyda dros hanner y lleoedd wedi mynd eisoes, bydd angen i chi fod yn gyflym i sicrhau lle.  Gallwch wneud cais ar-lein.

I’r rheiny sydd angen trafnidiaeth ar y diwrnod, bydd bws wennol yn dychwelyd o faes parcio Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl i Flaenafon a gallwch gadw lle ar-lein pan fyddwch yn cofrestru.

Bydd yr elw o’r ras yn mynd at Gronfa Ymddiriedolaeth Coffa Mic Morris.

Roedd Mic Morris yn swyddog gyda’r heddlu ac yn rhedwr pellter canol dros Brydain o Bont-y-pŵl a fu farw’n 24 oed wrth ymarfer yn 1983. 

Sefydlwyd y gronfa gan Heddlu Gwent a Chyngor Torfaen er mwyn codi arian i bobl ifanc sy’n ymwneud â champau ar y lefel uchaf oll, yn arbennig pobl ifanc 11 i 21 oed sy’n byw yn Nhorfaen.

Dywedodd Christine Vorres, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Mic Morris: “Mae’r disgyniad graddol hyd at y llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl yn gwneud ras 10k Torfaen yn boblogaidd gydag athletwyr o radd uchaf a dechreuwyr fel ei gilydd.”

“Mae’r arian o’r digwyddiad yn mynd i gefnogi athletwyr ifanc yn Nhorfaen, felly pan fu rhaid i ni ohirio oherwydd COVID, roedd hynny’n golygu nad oedd modd i ni roi unrhyw grantiau.

Rydym yn edrych ymlaen at allu helpu’n pobl ifanc unwaith eto.  Dyma’r degfed tro i ni gynnal y ras ar ei ffurf bresennol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn.  Rydym hefyd yn cynnal Ras 2k i Ieuenctid yn y parc felly gall y teulu cyfan ymuno yn yr hwyl ar y diwrnod.” 

Ar gyfer gwybodaeth am gau ffyrdd ac am y digwyddiad, ewch i wefan TorfaenAr fwy o wybodaeth, ymholiadau am nawdd, neu os hoffech chi wirfoddoli ar y diwrnod, ffoniwch Christine Philpott ar 01633 628936 neu danfonwch: christine.philpott@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 23/03/2022 Nôl i’r Brig