Prosiect DJ yn cynnig cyfleoedd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Mawrth 2022
Changing Gearz DJ pic 2

Mae dros 50 o bobl ifanc yn dysgu sgiliau newydd, diolch i fenter DJ radio newydd yn Nhorfaen. 

Mae’n cael ei redeg gan brosiect Inspire Cyngor Torfaen, sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd mewn perygl o ddatgysylltu o addysg, sy’n ddi-waith, neu sydd mewn perygl o fod yn ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r prosiect, yn Nhref Gruffydd, yn helpu pobl ifanc i ysgrifennu, recordio a golygu eu sioeau radio eu hunain ac yn rhoi sgiliau iddyn nhw y gallan nhw eu defnyddio i wella’u cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Cyfeiriwyd Lewis George, 16 oed, o Bont-y-pŵl at y prosiect cerddoriaeth gan uned cyfeirio disgyblion Torfaen.

Dywedodd: “Rwy’n caru dod i’r prosiect cerdd pob wythnos ac mae e wedi fy helpu i gael mwy o hyder a defnyddio offer na fyddwn i wedi gallu cael fy hun.

“Cyflwynodd fy nhad-cu fi i gerddoriaeth y 60au, 70au a’r 80au ac rydw i wrth fy modd yn chwarae’r cerddoriaeth hwnnw yn fy sesiynau.  Rydw i hefyd yn recordio sioe cerddoriaeth roc ar gyfer y radio!”.

Mae’r prosiect cerddoriaeth wedi ysbrydoli Lewis i fynd ymlaen â’i addysg ac mae’n gobeithio mynd i Goleg Brynbuga ym Medi i astudio i fod yn nyrs milfeddygol. 

Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ac sy’n ceisio galluogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau mwy diogel ac iach, wedi bod yn mynd ers y llynedd.

Mae pobl ifanc yn cael eu cyfeirio at y prosiect gan ysgolion, y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc a sefydliadau eraill.

Cafodd Hakeem Themis 17 oed, sy’n wreiddiol o Lundain, ond sydd bellach yn byw ym Mhont-y-pŵl, ei gyfeirio at y prosiect gan Wasanaeth Troseddwyr Ifanc Torfaen a Sir Fynwy.

Mae e’n ffan fawr o ‘hip hop’ fan ac mae’n mynychu’r sesiynau DJ pob dydd Gwener i wella’i sgiliau a’i hyder! 

Dywedodd “Mae’r prosiect cerddoriaeth wedi rhoi llawer mwy o hyder i fi ac rydw i wrth fy modd â cherddoriaeth felly mae’r cyfle i ddefnyddio’r offer a gwneud fy sioe radio fy hun yn wych!”

“Mae’r prosiect wedi rhoi rhywbeth i fi ganolbwyntio arno ac wedi cael gwared ar y posibilrwydd fy mod i’n mynd i drafferth eto.  Rydw i wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi cael cymwysterau o fod ynghlwm wrth y prosiect”.  

Hakeem

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Prosiect Inspire: “Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc sydd efallai’n cael trafferth gydag addysg neu sydd â rhwystrau yn eu ffordd, ac yn cynnig cyfle iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd ac adeiladu eu hyder trwy wneud rhywbeth y maen nhw’n hoffi.”

“Rydym yn gweld bod rhai pobl ifanc a fyddai’n cael trafferth mynychu’r ysgol nawr yn mynychu’n fwy rheolaidd oherwydd eu bod nhw’n gwybod y byddan nhw’n cael cyfle i fynychu’r prosiect cerddoriaeth. Rydym wedi gweld datblygiadau anferth ym mhawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect o ran eu hyder a chyfathrebu, y gallu i weithio mewn tîm, a chanolbwyntio ar dasgau, pethau sydd i gyd yn cynnig buddion mawr ar gyfer eu cyfleoedd am waith yn y dyfodol.”

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Pan fo pobl ifanc yn cadw draw o addysg a gwaith, maen nhw mewn perygl o droseddu neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

“Trwy gynnig cyfle iddyn nhw wneud rhywbeth sy’n ystyrlon iddyn nhw, gallwn eu helpu i ddatblygu gan sicrhau eu bod yn cael eu diogelu, eu cefnogi a’u bod yn gallu cyrraedd eu potensial.”

Diwygiwyd Diwethaf: 22/03/2022 Nôl i’r Brig