Clwb busnes yn dathlu 21 o flynyddoedd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 30 Mehefin 2022

Mynychodd mwy na 40 o fusnesau ddigwyddiad dathlu 21 o flynyddoedd Llais Busnes Torfaen yr wythnos ddiwethaf lle cawsant gacen a chartwnydd.

Ers i’r clwb gychwyn, mae mwy na 500 o fusnesau wedi eu cynorthwyo gyda mentora busnes, cyfleoedd ariannu, newidiadau busnes hollbwysig i GDPR, trethi arlein, seiber-ddiogelwch a sut i ennill tendrau.  

Mae aelodaeth hefyd yn rhoi mynediad i berchnogion at ddigwyddiadau rhwydweithio, cylchlythyrau rheolaidd a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf. Caiff y clwb ei redeg gan bwyllgor o fusnesau sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth a llywio’r clwb mewn cyfeiriad a benderfynir gan fusnes. 

Meddai Gareth Waters, Alliance Marketing Agency: “Roedd yn wych dod yn ôl i rwydweithio wyneb yn wyneb gydag aelodau eraill Llais Busnes Torfaen! Rwyf wedi bod yn aelod o’r clwb rhwydweithio yma ers 2007 ac yn y cyfnod hwnnw rwyf wedi gwneud llawer o gysylltiadau busnes hirdymor sydd wedi arwain at gyfleoedd busnes i ‘musnes i ac aelodau eraill y clwb.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf roedd LlBT wedi parhau i weithredu drwy gyfarfodydd Teams arlein a helpodd aelodau i gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd, ond, a barnu o’r niferoedd a ddaeth i’n cyfarfod diweddar, mae’n ymddangos bod awch gan berchnogion busnes i rwydweithio wyneb yn wyneb unwaith eto. Mae hyn yn sicrhau y gall cydberthnasau busnes yn y clwb dyfu, ynghyd â meithrin perthnasau newydd. Llongyfarchiadau ar 21 o flynyddoedd o gefnogi busnesau lleol yn Nhorfaen!” 

Dywedodd Ashley Harkus, Cyfreithwyr Everett Tomlin Lloyd a Pratt, Cadeirydd Llais Busnes Torfaen: “Mae’n haws gwneud busnes gyda phobl rydych yn eu hadnabod a’u hoffi. Mae’r clwb wedi codi proffil ein cwmni ac wedi arwain at gleientiaid newydd ar gyfer ein gwasanaethau busnes, timau teuluol a thrawsgludo naill ai’n uniongyrchol neu drwy argymhelliad, ynghyd ag ehangu’r rhwydwaith o bobl mewn sectorau proffesiynol eraill rydym yn eu hadnabod.  

“Drwy’r cysylltiadau rydym wedi eu gwneud, mae aelodau’r clwb wedi darparu gwasanaeth dylunio a lletya ein gwefan, brandio, ffotograffiaeth ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau. Mae hefyd wedi bod yn hynod ddefnyddiol cadw i fyny gyda chyllid lleol a chenedlaethol, grantiau a mentrau hyfforddi.”

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae bod yn rhan o rwydwaith fel Llais Busnes Torfaen yn bwysig pan ydych yn fusnes. Mae’n rhoi mynediad i chi at gymorth a phobl sy’n meddwl yr un fath, sy’n wych os ydych eisiau tyfu ac ehangu eich busnes.

“Roedd yn braf iawn clywed bod y dathliad 21 o flynyddoedd yn gallu bod wyneb yn wyneb, yn enwedig ar ôl yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’n swnio fel bod pawb wedi cael amser gwych.

“Buaswn yn annog unrhyw fusnesau yn Nhorfaen i ymuno â Llais Busnes gan fod y cyfleoedd rhwydweithio yn amhrisiadwy.”

Mae aelodaeth yn costio £48 y flwyddyn i aelodau newydd neu fusnesau sy’n cychwyn. I gael gwybod mwy am Lais Busnes, ewch i www.southwalesbusiness.co.uk neu ffoniwch 01633 647800

Mae cyfarfod rhwydweithio nesaf Llais Busnes Torfaen ar ddydd Iau 15 Medi yng Nghlwb Golff Dôl Werdd am 4.30pm.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2022 Nôl i’r Brig