Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Mehefin 2022
Mae bron i 100 o ferched o ysgolion cynradd ledled Torfaen wedi cymryd rhan mewn gŵyl bêl-droed i ferched yn unig yn Stadiwm Cwmbrân yr wythnos yma.
Nod yr ŵyl chwech bob ochr oedd cynyddu cyfranogiad merched yn y sbort, gan roi cyfle iddyn nhw roi cynnig arni mewn amgylchedd diogel, anghystadleuol.
Gyda’r clybiau lleol Llanyrafon AFC a Coed Eva AFC yn bresennol, roedd y diwrnod yn gyfle i’r sawl nad oes ganddynt gysylltiad gyda chlybiau pêl-droed lleol i gofrestru.
Mwynhaodd disgybl Blwyddyn 6 Cadence Williams, o Ysgol Gynradd Blenheim ei diwrnod yn y stadiwm, gan ddweud: “Mae wedi bod yn hwyl mawr chwarae gemau yn erbyn ysgolion eraill ac mae wedi gwneud i mi feddwl am ymuno â chlwb.”
Trefnwyd yr ŵyl gan y Sir yn y Gymuned, Academi Geltaidd Cwmbrân, Game On ac arweinwyr chwaraeon lleol.
Meddai Swyddog Datblygu Chwaraeon a threfnydd y digwyddiad, Jacob Guy: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ferched yn mwynhau pêl-droed fel rhan o’r ŵyl.
“Mae pêl-droed yn sbort gwych i blant o bob oedran ac maent yn cael cyfle i feithrin cyfeillgarwch a datblygu sgiliau newydd ar y ffordd.
“Rydym yn gobeithio bod y cyffro o amgylch tîm Cymru yn mynd i Gwpan y Byd yn Qatar eleni yn ysbrydoli mwy o blant i ymuno yn y sbort.”
Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yn y diwrnod yn cynnwys:
- Ysgol Gynradd George Street
- Ysgol Gynradd Blenheim Road
- Ysgol Gynradd Henllys
- Ysgol Gynradd Coed Efa
- Ysgol Gynradd Dewi Sant
- Ysgol Gynradd Penygarn
I gael rhagor o wybodaeth am bêl-droed i ferched yn Nhorfaen, cysylltwch â Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936, ebost, jacob.guy@torfaen.gov.uk neu anfonwch neges atynt ar y cyfryngau cymdeithasol @torfaensport