Gwasanaeth cynghori newydd ar y ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 23 Mehefin 2022
CELT

Mae gwasanaeth newydd yn cynnig cyngor ar swyddi a hyfforddiant wedi cychwyn.  

Ar ôl llwyddiant y Pod Cyngor Cyflogaeth a Sgiliau yn Llyfrgell Cwmbrân, bydd tîm Cyflogadwyedd a Sgiliau Cyngor Torfaen yn lansio bws newydd i roi cymorth un wrth un mewn cymunedau.

Bydd bws CELT, sy’n rhan o gynllun peilot rhanbarthol Cysylltu, Ymgysylltu, Gwrando, Trawsnewid, ar gael i unrhyw un sydd ag angen am help i chwilio am waith, newid swyddi neu wella’u sgiliau.

Bydd hefyd yn cynnig mynediad i’r rhyngrwyd a chefnogaeth ddigidol, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau cymorth lleol.

Cafodd Charlotte, o Bont-y-pŵl, gymorth yn ddiweddar gan y gwasanaeth yn Llyfrgell Cwmbrân, a agorodd ym Mawrth.

Dywedodd: “Es i i’r Pod am help i wneud cais ar gyfer y taliad Costau Byw o £150. Tra’r roeddwn i yno, cwrddais i â Nicole, a roddodd help i fi wneud cais am grant tuag at gostau tai a pharsel bwyd. Esboniais i fy mod yn hunangyflogedig a soniodd hi am ddau brosiect a allai fy helpu i ddysgu sgiliau newydd a datblygu fy musnes.

“Roedd y profiad cyfan yn wych. Buaswn i’n annog unrhyw un sydd ag angen am gefnogaeth, waeth beth yw eich sefyllfa, i alw heibio i weld y tîm, naill ai yn y llyfrgell neu ar y bws. Cewch chi ddim eich siomi.”

Bydd y bws yn galw mewn meysydd parcio archfarchnadoedd lleol, mewn digwyddiadau penodol a bydd y tu allan i ysgolion o’r wythnos nesaf ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Jo Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae’r gwasanaeth galw heibio newydd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth roi cefnogaeth lawn i drigolion, o gymorth ariannol yn syth at ddysgu sgiliau newydd a chwilio am waith.  

“Mae’r bws newydd yn golygu y bydd y gwasanaeth hanfodol yma’n cyrraedd pobl eraill. Bydd ymweld â chymunedau gwahanol hefyd yn golygu bod ein tîm yn gallu dysgu mwy am yr heriau sy’n wynebu pobl mewn ardaloedd gwahanol fel y gall y gefnogaeth gael ei haddasu i’w hanghenion.”

Ariennir prosiect CELT gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.  Gallwch ddysgu mwy am y gronfa yma.

Os ydych chi’n gwybod am ddigwyddiad lleol neu grŵp lleol a fyddai’n hoffi croesawu’r bws, cysylltwch os gwelwch yn dda â angela.price@torfaen.gov.uk

Mae’r Pod Cyngor Cyflogaeth a Sgiliau ar lawr isaf Llyfrgell Cwmbrân pob dydd rhwng 9.30am a 4.30pm, ac eithrio dydd Mercher pan fydd y llyfrgell ar gau, gall unrhyw un sydd ag angen am gyngor alw heibio. Does dim angen apwyntiad.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/06/2022 Nôl i’r Brig