Gwasanaeth Chwarae yn paratoi ar gyfer Cynlluniau Chwarae yr Haf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022
playworkers

Mae mwy na 340 o aelodau staff a gwirfoddolwyr yn paratoi ar gyfer cyflwyno cynllun chwarae haf llawn gweithgareddau ar gyfer plant drwy gydol mis Awst.

Yn dechrau ar ddydd Llun 1 Awst, bydd plant 5 – 12 oed yn gallu cymryd rhan yn y cynlluniau chwarae mynediad agored a fydd yn rhedeg bob dydd hyd at 25 Awst. 

Gall y plant ddisgwyl cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau celfyddyd a chrefftau, chwaraeon, gemau tîm a llawer o chwarae dewis rhydd gyda’r nod o’u cadw’n ffit ac yn iach drwy gydol yr haf. 

Meddai Gemma Boalch, o Gwmbrân, y mae ei phlant Pippa a Rory yn mynychu am y tro cyntaf eleni: “Ar ôl clywed cymaint o bethau da am y cynlluniau chwarae, mae’r ddau yn edrych ymlaen go iawn i gymryd rhan, gan eu bod yn rhy ifanc i fynychu yn y gorffennol.

"Fel rhiant sy’n gweithio, mae hyn o help mawr i mi gan fy mod yn gwybod eu bod yn cael eu goruchwylio gan wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi a staff.”

Nid oes angen bwcio ymlaen llaw. Yr unig beth sydd angen i rieni ei wneud yw cwblhau’r broses gofrestru ar y diwrnod cyntaf pan fydd eu plentyn eisiau mynychu.

Yn ychwanegol at y Cynlluniau Chwarae, mae cyfres o werllysoedd Chwerthin, Dysgu a Bod yn Egnïol – wedi eu bwcio’n llawn – yn rhedeg mewn ysgolion cynradd lleol, sy’n gweld 1,300 o blant yn mynychu bob dydd. 

Mae’r sesiynau poblogaidd Chwarae yn y Parc hefyd yn dod yn ôl eleni, ar ôl cael eu cyflwyno yn yr haf 2021. Cynhelir y sesiynau yn y prynhawn mewn naw parc ledled y fwrdeistref. Manylion llawn i’w gweld yma

Mae’r gweithwyr chwarae Ieuan Thomas, Rhys Cousins, Alex Jones, Jasper Davenne oll yn edrych ymlaen ar ddechrau eu haf.

Roeddent oll yn mynychu’r cynlluniau pan roeddent yn iau. Gan wybod cymaint o hwyl sydd i’w gael, penderfynasant chwarae rhan i wneud ffrindiau newydd a chael cymwysterau newydd.

Dywedodd Jasper, sydd wedi gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth am y ddwy flynedd ddiwethaf: “Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli; mae’n fy nghadw’n ffit yn rhedeg o gwmpas drwy’r amser gyda’r plant.

"Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau ac mae wedi fy helpu gydag ysgrifennu fy natganiad personol ar gyfer y Brifysgol, oherwydd gallwn siarad am weithio fel rhan o dîm, datrys problemau a manteision cadw plant yn ffit ac yn iach.”

Meddai Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae gyda Chyngor Torfaen: "Rydym wedi cael wythnos wych yn hyfforddi’r staff a’r gwirfoddolwyr; maent i gyd yn edrych ymlaen at gychwyn a chynnig cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref.

"Rwy’n gwybod ein bod yn mynd i gael haf cofiadwy, gyda llawer o wenu a chyfeillgarwch gwych yn cael ei feithrin."

Diwygiwyd Diwethaf: 29/07/2022 Nôl i’r Brig