Cysylltu Torfaen "eich rhwydwaith cymdeithasol go iawn"

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022
Connect Torfaen  - Instagram July 22 - Jan 23 (1)

Os ydych yn chwilio am bethau i wneud yr haf yma, Cysylltu Torfaen yw eich siop un stop ar gyfer gweithgareddau yn eich ardal leol.

Mae mwy na 500 o bobl a mudiadau wedi cofrestru gyda’r wefan newydd sy’n hyrwyddo amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys hwyl yr haf i blant a theuluoedd, yoga gyda’r nos a gweithgareddau cymdeithasol fel grwpiau crefftau a boreau coffi.

Bydd map rhyngweithiol newydd yn caniatáu i chi chwilio am weithgareddau a digwyddiadau yn eich cymuned i adael i chi wybod beth sy’n digwydd yn Nhorfaen.

Meddai Emma Davies-McIntosh, Arweinydd Rhwydweithiau Lles Integredig Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym eisiau cynorthwyo pobl ledled Torfaen i fyw yn dda a gwella eu lles.

"Nod y map rhyngweithiol newydd ar Cysylltu Torfaen yw dod â chymunedau at ei gilydd, hyrwyddo amrywiol weithgareddau lleol a fydd yn helpu pobl i fynd allan, cyfarfod pobl a fydd yn gwella eu hiechyd a’u lles.

"Rydym wrth ein boddau yn gweithio gyda Chyngor Torfaen a Chynghrair Wirfoddol Torfaen ar y darn pwysig iawn yma o waith i Dorfaen."

Mae mwy na 170 o weithgareddau eisoes wedi eu hychwanegu at y safle a gall pobl sydd a diddordeb mewn gwirfoddoli ganfod cyfleoedd lleol hefyd. 

Un grŵp o’r fath sy’n awyddus i recriwtio garddwyr-wirfoddolwyr drwy Cysylltu Torfaen yw Gardd Gymunedol Ger-yr-efail.

Ffurfiwyd yr ardd newydd gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol i greu pedair gardd newydd – un ym mhob un o wledydd y DU – i ddathlu Diwrnod yr Ardd yr RHS.

Dywedodd Geraint Reynolds, Cadeirydd RFC Ger-yr-efail: “Pwrpas ein gardd gymunedol yw bod o fudd i bobl Ger-yr-efail a Blaenafon. Rydym yn defnyddio Cysylltu Torfaen i ledaenu ein neges – pan fyddwn angen gwirfoddolwyr er enghraifft. Nid y clwb rygbi yw popeth – mae’n cynnwys yr hyn rydym yn ei wneud ar ran y gymuned – ac mae defnyddio’r llwyfan yma yn helpu i ledaenu ein newyddion yn fwy eang.”

Gallwch bori gweithgareddau a digwyddiadau drwy fynd i Cysylltu Torfaen yma, neu gofrestru fel aelod a chysylltu gyda defnyddwyr cofrestredig eraill. Gallwch gofrestru drwy fynd i’r dudalen yma.   

Os ydych yn cynrychioli mudiad, grŵp cymunedol neu fusnes ac eisiau hyrwyddo digwyddiad, rhestru cymuned neu gyfle gwirfoddoli, bydd angen i chi gofrestru AC ychwanegu gweithgaredd.

Mae Cysylltu Torfaen yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Cynghrair Wirfoddol Torfaen, Cyngor Torfaen a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau: “Mae’n wych bod cymaint o bobl a grwpiau yn defnyddio safle  Cysylltu Torfaen.

“Cysylltu Torfaen yw y lle i fynd i drigolion yn y fwrdeistref sy’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli neu weithgareddau newydd a chyffrous, a fydd heb os yn cael effaith bositif ar eu lles meddyliol a chorfforol.

"Os nad ydych eisoes wedi cofrestru neu ymweld, buaswn yn eich annog i wneud hynny. Mae’r safle yn mynd o nerth i nerth a gyda mwy o aelodau’r gymuned yn cymryd rhan, gallwn wneud gwahaniaeth positif i fywydau ein gilydd a’r gymuned ehangach rydym yn byw ynddi.”

Gallwch ymweld â Cysylltu Torfaen unrhyw adeg yn www.connecttorfaen.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 29/07/2022 Nôl i’r Brig